Tlws Cymru 2023-2024

2il Rownd Tlws Cymru

gan Elgan Rhys Jones

Penwythnos yma mae Ail Rownd Tlws Cymru, gyda dau dim o’r Fro yn ymuno gyda’r gystadleuaeth. Gem gartref sydd yn disgwyl Llanrug a Llanberis yn yr Ail Rownd.

Bethesda Rovers fydd gwrthwynebwyr Llanberis ar Ffordd Padarn. Bydd y Darans yn gobeithio am rediad tebyg i dymor diwethaf wedi iddynt gyrraedd y 5ed Rownd cyn colli yn Ne Cymru i Baglan Dragons.

Bydd Llanberis yn gobeithio osgoi sioc ac am ganlyniad tebyg i’r gem yn Nghwpan Cymru yn erbyn Bontnewydd sydd yn chware yn yr un adran a’r tim o Fethesda yn Adran Gyntaf Y Gorllewin Arfordir Gogledd Cymru.

Bydd Llanberis yn gobeithio dilyn eu buddugoliaeth Sadwrn diwethaf yn y gynghrair yn erbyn Amlwch, gyda’i ail buddugoliaeth yn olynol. Wrth wynebu y  y tim o Adran Gyntaf Y Gorllewin Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru.

Tra ar Eithin Duon bydd Pencampwyr y Tlws yn 2014 Llanrug yn gwynebu Aberffraw.

Wedi iddynt golli yn y Rownd Rhagbrofol gyntaf Cwpan Cymru i Amlwch, bydd Llanrug yn gobeithio am rhediad gwell yn y Tlws.

Ers y golled honno, ond dwywaith mae Llanrug wedi colli ac un o rheiny y   Sadwrn diwethaf yn Nefyn. Mae’r cochion yn eistedd yn 4ydd yn y Gynghrair. Gyda’u gwrthwynebwyr Aberffraw yn rhan arall y tabl.

Mae Beffro yn eistedd ar waelod y tabl gyda phwynt yn unig i’w henw. Mae’r clwb o Ynys Môn wedi chware yn y Fro yn barod mis yma wedi iddynt golli yn y gynghrair i Lanberis.

2il Rownd Tlws Cymru

Dydd Sadwrn 30 Medi. Cic Gyntaf 2y.p

Llanberis v Bethesda Rovers – Ffordd Padarn

Llanrug United v Aberffraw – Eithin Duon