Hanes Tŷ Ni

Cipolwg ar hanes cartref chwarelyddol cyffredin yn Nantperis.

Elin Tomos
gan Elin Tomos
Bwlch Llanberis - c. 1905Detroit Publishing Co.

Nid dyma’r cychwyn gorau i ddarn sy’n edrych ar hanes tŷ ond nid wyf yn gwybod fawr ddim ynghylch sut na phryd y cafodd ei adeiladu.

Un peth dwi’n gwybod yn sicr yw bod y tŷ wedi ei adeiladu ar dir oedd yn eiddo i deulu Stad sylweddol y Faenol – perchnogion Chwarel Dinorwig yn ogystal â thua 36,000 o erwau ar draws Arfon, Môn Eifionydd a Llŷn. Tuag at ddiwedd y 1820au, penderfynodd teulu’r Faenol gynnig darnau bach o dir ar brydles i chwarelwyr lleol mewn ymgais i glirio tir mynyddig y dyffryn. Dwi’n rhyw amau bod fy nghartref i wedi cael ei adeiladu yn ystod y cyfnod yma sy’n golygu bod Ty’n Twll yn agosáu at ei ben-blwydd yn 200 oed.

Mae’r tŷ yn ymddangos gyntaf ar Gyfrifiad Cenedlaethol 1841 – y cyfrifiad cyflawn cyntaf sydd ar gael. Yn byw yna bryd hynny oedd Morris Williams, chwarelwr deugain oed a’i wraig Catherine a’u plant: William (14), Margaret (12), Evan (9), David (2), Alice (deufis). Roedd pob un ohonynt wedi cael eu geni yn Sir Gaernarfon. Mae’n ymddangos na arhosodd Morris, Catherine a’u nythaid yn y tŷ yn hir iawn gan fod y cyfrifiad nesaf yn datgelu bod teulu newydd wedi symud i mewn.

Erbyn 1851, mae chwarelwr o’r enw Griffith Williams (37) a’i wraig Ann (42) yn byw yn y tŷ. Mae pump o blant yn byw ar yr aelwyd hefyd: Thomas (11) a William (10) – ill dau yn gweithio fel prentisiaid (ifanc iawn!) yn y chwarel, Margaret (9), Jane (7), a Griffith (4).

Pan ddechreuais ymchwilio i hanes ein tŷ mi es i draw i fynwent Nantperis er mwyn ceisio dod o hyd i feddau oedd yn crybwyll enw ein tŷ. Cefais fy syfrdanu pan – ar ôl degau o deithiau o amgylch y fynwent – nes i fethu â dod o hyd i’r un garreg fedd ar gyfer y bobl a oedd yn arfer byw yn tŷ ni.

Yn y diwedd, des i o hyd i garreg fedd fechan a oedd wedi cael ei gwthio i fyny yn erbyn wal y fynwent gan goeden enfawr. Arwydd o dlodi’r holl drigolion fu yno o’n blaenau ni ydy’r ffaith mai dyma’r unig garreg fedd ym mynwent Nant ar gyfer y tŷ. Carreg er cof am:

‘Blant GRIFFITH ac ANN WILLIAMS …

bu farw ANN Medi 15 1846 yn 1 fl OED

bu farw OWEN Maw. 8 1849 yn 3 wythnos OED

bu farw CATHERINE Ebrill 1 1850 yn 2 fl OED’

O fewn cyfnod o bedair blynedd roedd Griffith ac Ann Williams wedi claddu tri o blant bychain.

Cynhaliwyd y cyfrifiad cenedlaethol nesaf yn 1861. Roedd y chwarelwr Griffith Williams a’i wraig, Ann, yn dal i fyw yn y tŷ gyda thri o’u plant: eu meibion, William (20), a Griffith (14) – y ddau yn gweithio fel ‘Slate Quarrier[s]’ – a’u merch Margaret (19) a’i gŵr ifanc, Griffith Jones (19). Roedd y cofrestrydd wedi rhannu’r tŷ yn ddau i ddangos bod yna ddau benteulu bellach sef Griffith Williams a’i fab-yng-nghyfraith newydd Griffith Jones.

Bu’r 1860au yn ddegawd o fagu i Griffith a Margaret Jones a hynny ar yr un aelwyd â Nain a Taid – Griffith ac Ann Williams. Erbyn Cyfrifiad 1871 roedd gan Griffith a Margaret Jones bedwar o blant: Anne (8), William (5), Elizabeth (2) a Griffith (1). Roedd Griffith ac Ann Williams dal yn byw yno hefyd gyda’u mab Griffith a oedd bellach yn 23 mlwydd oed. Does ’na’m dwywaith bod diffyg dychymyg y cyfnod wrth enwi plant yn gwneud y gwaith o gofnodi’r rheiny a fu’n byw yn Ty’n Twll fymryn yn heriol. Edrychwch ar fanylion 1871, er enghraifft, yn byw ar yr aelwyd mae Griffith – Griffith Williams ‘Y Griffith Gwreiddiol’ a’i fab Griffith Jnr, Griffith Jones, mab-yng-nghyfraith y ‘Y Griffith Gwreiddiol’ a’i fab yntau, Griffith Jones Jnr!

Erbyn 1871 mae Griffith Williams (‘Y Griffith Gwreiddiol’) bellach yn cael ei restru fel ‘Slate Quarryman and Grocer’ sy’n ddifyr. Tybed a fu’r cartref yn rhyw fath o siop am gyfnod? Ar yr aelwyd hefyd mae dwy forwyn: Margaret Williams (20) o blwyf Llanbeblig a Jane Griffiths (16) o blwyf Llanberis, ffaith sy’n awgrymu bod y teulu wedi dod i fyw fymryn yn fwy cyfforddus erbyn 1871 – cyfnod lle’r oedd modd ennill arian da yn y chwarel gan bod y diwydiant yn llewyrchus. Mae’n bosib bod angen ychydig o gymorth ar yr aelwyd hefyd; yn y ‘siop’ efallai neu bâr arall o ddwylo gan gofio bod ychydig o dir yn perthyn i Ty’n Twll adeg honno.

Gan gyfri’r morwynion – ynghyd â 4 Griffith – roedd yna hefyd ddwy Ann (Ann Williams, gwraig ‘y Griffith Gwreiddiol’ a’i hwyres Ann Jones) a dwy Margaret (Margaret Jones, merch Griffith ac Ann Williams) a Margret (y forwyn o Lanbeblig) yn byw yn y tŷ. Am ddryslyd!

Parhau i dyfu mae’r aelwyd yn ystod yr 1870au. Erbyn 1881 mae yna ddeuddeg o bobl yn byw yn Ty’n Twll. Mae’n amhosib meddwl am ddeuddeg o bobl yn byw yn tŷ ni. Bwthyn oedd Ty’n Twll bryd hynny, one up one down o bosib neu adeilad unllawr hefo ryw fath o crogloft. O edrych ar ffigyrau Cyfrifiad 1881 yn ehangach mae’n bosib gweld bod 3,033 o bobl yn byw o fewn 275 tŷ ym mhlwyf Llanberis, sy’n golygu, ar gyfartaledd roedd o leiaf 10 person yn byw ym mhob tŷ, ffigwr sy’n awgrymu problem gorboblogi sylweddol yn y dyffryn.

Erbyn 1881 roedd Griffith Williams a oedd bellach yn 68 mlwydd oed a’i wraig Ann a oedd yn 72 mlwydd oed wedi bod yn byw yn y tŷ ers bron i ddeugain mlynedd. Yno hefyd oedd eu merch Margaret Jones a’u mab-yng-nghyfraith Griffith Jones a’u wyrion a’u hwyresau: Anne (19), William (15), Eliza (12), Owen (9), Margaret (7), Griffith (5), Catherine (3) a Thomas (8mis). Roedd morwyn ddeunaw oed o’r enw Ann Williams yn byw ar yr aelwyd hefyd.  3 Griffith, 3 Ann, 2 Margaret!

Mae’r ffaith bod cymaint o berthnasau o’r un enw yn ddryslyd ac mae Cyfrifiad 1881 yn gwneud pethau’n fwy dryslyd byth! Mae Griffith Williams Jnr – mab ‘Y Griffith Gwreiddiol’ – wedi gadael cartref bellach ond mae rhywbeth yn amheus ynghylch ag oedran Griffith Jones Jnr. Yn 1871 roedd Griffith Jones Jnr yn faban blwydd oed ond ar Gyfrifiad 1881 mae ‘Griffith Jones’ yn bum mlwydd oed? Mae hyn yn awgrymu bod y Griffith sy’n ymddangos ar Gyfrifiad 1871 wedi marw ryw ben cyn 1876 a bod ei rhieni wedi cael hogyn bach arall ac wedi ei alw ef yn (you guessed it!) – Griffith. Yn y cyfnod Fictoraidd nid anghyffredin oedd enwi plentyn iau ar ôl plentyn hŷn a oedd eisoes wedi marw.

Mae’r 1880au yn ddegawd cythrublus i deulu Ty’n Twll a hynny am sawl rheswm. Gwta flwyddyn wedi cynnal Cyfrifiad 1881 bu farw Ann Williams yn 73 mlwydd oed. Claddwyd Ann ar 14 Ionawr 1882 ym mynwent Nantperis. Bu farw ‘Y Griffith Gwreiddiol’ – Griffith Williams yn 72 mlwydd oed, claddwyd ef ar 14 Ionawr 1887, pum mlynedd union ers iddo gladdu ei wraig, Ann.

Erbyn 1891 dim ond un penteulu sy’n byw yn Ty’n Twll sef Griffith Jones, ei wraig Margaret, eu plant Owen (19), Griffith (15), ill dau yn chwarelwyr, Thomas (10), ac wyr o’r enw Gwilym a oedd yn dair oed.

Bedyddwyd Gwilym William Jones ar 14eg o Fawrth 1888. Cyfeiriwyd ato fel ‘the illegitimate child of … Jones, Ty’n Twll.’ Dyma’r ymadrodd annymunol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio plant a anwyd tu allan i briodas. Mewn cymdeithas a oedd yn ystyried priodas fel yr unig sail i ffurfio teulu parchus, gosodwyd mamau a’u plant ‘anghyfreithlawn’ ar y cyrion: yn brawf gweledol ym marn yr oes o foesau llac y fam ac yn destun cywilydd i’w theulu cyfan. Yr hyn sy’n anghyffredin o safbwynt cofnod bedyddio Gwilym ydy’r ffaith nad ydy enw ei fam yn cael ei nodi. Mae’r ffaith nad oedd merched Griffith a Margaret Jones yn byw ar yr aelwyd yn gwneud y dyfalu yn anodd hefyd. Nid yw Anne a fyddai wedi bod yn 25/26 ac Eliza a fyddai wedi bod yn 18/19 pan anwyd Gwilym yn byw yn y tŷ erbyn 1891. Erbyn heddiw, nid oes modd gwybod pwy oedd rhieni Gwilym, ond mewn cymdogaeth glòs fel Nantperis mae hi’n bur debyg bod trigolion yr ardal yn gwybod yn union pwy oeddent.

Bu farw Gwilym yn saith mlwydd oed. Claddwyd ef ar y 23ain o Orffennaf, 1895.

Gyda chanrif newydd, daw heriau newydd i deulu Ty’n Twll. Erbyn 1901 mae Griffith Jones yn cael ei restru fel gŵr gweddw. Claddwyd ei wraig Margaret ar 25 Ebrill 1899 yn 57 mlwydd oed. Yn byw ar yr aelwyd mae ei feibion Griffith Jones Jnr (25), a Thomas (20), ‘Slate Quarrymen’, a’i ferched Margaret (27) a Catherine (22). Mae’n bur debyg bod y merched wedi dychwelyd i fyw gartref yn dilyn marwolaeth eu Mam yn 1899.

Daeth Griffith Jones yn daid unwaith yn rhagor yn 1902 pan anwyd Maggie, merch Margaret. Bedyddiwyd Maggie ar yr 22ain o Fawrth 1902. Rhestrwyd Maggie – yn union fel Gwilym degawd a mwy ynghynt – fel plentyn anghyfreithlon.

Mae saga y Griffiths yn parhau. Wrth edrych trwy gofnodion Ysbyty Chwarel Dinorwig derbyniwyd ‘G. G. Jones, Ty’n Twll, Nantperis’ i’r ysbyty i dderbyn triniaeth ar gyfer ‘lacerated wound on right leg’ ar y 3ydd o Chwefror 1906. Bu yno fel claf mewnol am dair wythnos. Mwy na thebyg mai Griffith Jones Jnr oedd hwn gan bod Cyfrifiad 1891 yn cyfeirio ato fel ‘Griffith G Jones.’

Ym mis Chwefror 1906 hefyd penodwyd un o’r Griffiths yn flaenor yng Nghapel Rehoboth, Nant. Ym mhapur newydd Gwalia ymddangosodd yr hysbysed canlynol:

‘YN DDIACONIAID. – Dewisiwyd yn ddiaconiaid yn eglwys Rehoboth, Nant Peris, y Mri Griffith Jones, Ty’ntwll; William T. Williams, Gwastadnant; ac R. E. Jones, athraw Ysgol y Cynghor.’

Roedd Capel Rehoboth yn ddipyn o ganolbwynt i’r teulu yn amlwg. Yno, ar yr 28ain o Dachwedd 1906 y priodwyd ‘gan y Parch Pierce Owen, Mr Griffith Griffith Jones, Ty’ntwll, a Miss Jane Evans, Gweithdy – y ddau o Nant Peris, Llanberis.’ Griffith fel enw cyntaf AC enw canol! Symudodd Griffith i fyw yn Gweithdy gyda’i wraig newydd.

Bu priodas arall ym mis Tachwedd 1909. Priodwyd ‘Miss Margaret Jane Jones, Ty’n Twll, Nant Peris a ‘Mr W. Elias Pritchard, Heol Newton, Llanberis.’ Symudodd Margaret i fyw i 17 Stryd Newton. Yn 1909 fe symudodd ei brawd Thomas ddipyn pellach. Ym mhapur newydd Gwalia ymddangosodd yr hysbyseb canlynol:

Gwalia, 26 Gorffennaf 1909, t. 1.

AR HYNT BELL – Y mae y llanc Wm. W. Roberts, Ynys Ettws, Nant Peris, yr hwn a ddychwelodd adref yn ddiweddar wedi ail-gychwyn ymwaith gyda llanc arall, sef Thos. G. Jones, Ty’n Twll. Dywedir fod eu gwynebau ar New Zealand. Rhwydd hynt a rhyw dda antur iddynt!

Erbyn 1911, gyda’r teulu Jones ar wasgar, mae teulu newydd yn byw yn Ty’n Twll. Yn byw ar yr aelwyd bellach mae Chwarelwr 47 mlwydd oed o’r enw W. T. Williams, ei wraig Ann, eu merch A. Gwyneth sy’n 13 mlwydd oed a’i fam-yng-nghyfraith Ann (!) Griffiths sy’n wraig weddw 85 mlwydd oed. Cyn dod i fyw i Ty’n Twll roedd y teulu wedi bod yn byw gerllaw yn Gwastadnant. Mae’r teulu yn dal i fyw yno yn ôl manylion Cyfrifiad 1921 hefyd ac eithro Ann Griffith sydd bellach wedi marw.