Betsan o Gaeathro yw seren Croendenau!

Dyma berfformiad llwyfan proffesiynol cyntaf Betsan

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd
DSC06472

Un o Gaeathro yw Betsan Ceiriog. Mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Astudiodd ar gyfer BA Perfformio yng Nghaerdydd yng yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant, gan radio yn 2018.

Betsan oedd un o sêr y gyfres deledu Rybish, a hi sy’n chwarae rhan Nel yn y cynhyrchiad llwyfan sy’n bwrw golwg ar fywyd merch ifanc yng nghefn gwlad Cymru.

Mae Croendenau, drama gan Mared Llywelyn yn cael ei disgrifio fel dramedi, drama sy’n mynd i’r afael â’i thestun drwy gyflwyno elfennau comig. Mae Croendenau yn cyffwrdd ar themâu fel ail garterfi a’r argyfwng iechyd meddwl yng nghefn gwlad Cymru.

Yn ôl Betsan:

“Yn naturiol, ’dwi’n nyrfys, yn enwedig gan ei bod hi’n sioe un person, ond ’dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at gamu ar y llwyfan.

“Mae’r themâu sy’n cael eu trafod am fod yn berthnasol i fwyafrif o bobl ifanc sydd yn tyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru. ‘Dwi’n siwr y bydd lot yn uniaethu â Nel.

“Dyma’r ddrama un person cyntaf i mi wneud felly mae’n brofiad gwahanol bod ar lwyfan ar ben fy hun, ond ’dwi wir yn edrych ymlaen.”

Bydd Croendena yn ymweld â Galeri, Caernarfon 20-22 Chwef