Adduned blwyddyn newydd: troi’n locavore?

Llysieuwyr, figans…a locavores?

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed am lysieuwyr, figans a phesgiterians, ond mae ’na ffordd arall o fwyta’n amgen y dyddiau hyn.

Beth felly yw locavore?

Mae’r term yn dwyn ynghyd y geiriau “local” a’r terfyniad gair Lladin am fwyta, sef “vore.”

Mae locavore yn cael ei ddisgrifio fel rhywun sy’n dewis bwyta bwyd sydd wedi ei dyfu neu ei gynhyrchu yn eu hardal leol. Mae rhai’n mentro cynnig diffiniad manylach, gan honni fod deiet locavores yn fwyd sydd wedi’i gynhycrhu o fewn radiws o 100 milltir.

Yn oes cynaliadwyedd lle mae pwysau cynyddol ar unigolion i leihau eu hôl troed carbon, mae’n siŵr y bydd poblogrwydd y ffordd yma o fyw yn cynyddu. Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen, mae cynhyrchu bwyd yn gyfrifol am chwarter o’n holl allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mewn ymateb, dywedodd yr IPCC — y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd fod gofyn inni fwyta mwy o fwydydd yn eu tymor gan gynhyrchwyr lleol, ac i wastrafu a thaflu llai o fwyd.

Milltiroedd bwyd

Disgrifir milltiroedd bwyd fel y pellter y mae bwyd yn ei deithio o’r broses gynhyrchu hyd nes iddo gyrraedd y sawl sy’n ei fwyta. Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Sydney, mae’n debygol bod milltiroedd bwyd yn gyfrifol am tua 6% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd.

Beth fedrwn ni ei wneud felly?

Efallai ei bod hi braidd yn uchelgeisiol inni i gyd ddod yn locavores dros nos, ond beth am inni wneud adduned blwyddyn newydd i symud i’r cyfeiriad hwnnw?

Rydan ni yn Antur Waunfawr yn cyfrannu fymryn at y gwaith hwnnw drwy dyfu a choginio ein cynnyrch ein hunain ar y safle yn Weun.

Ar ein siop ar-lein, rydym yn gwerthu jam cyrens duon, bara brith cartref, siytni nionyn wedi’i garameleiddio, siytni afal a sbeis, nionod picl, yn ogystal â’n seidr ni ein hunain.