Plant a phobl ifanc yr ardal yn serennu!

Rhagor o lwyddiannau yn yr Eisteddfod 

gan Catrin Elain Roberts

Llongyfarchiadau mawr i Glwb Dawns Hudoliaeth o Benisarwaun am dderbyn yr 2il wobr yng nghystadleuaeth Grŵp Dawnsio Hip-Hop / Stryd / Disgo (neu gyfuniad) Blwyddyn 6 ac iau gyda’u dawns wefreiddiol ‘Gwyddonwyr Gwyllt’. Da iawn hefyd i’r clwb am gystadlu yn y gystadleuaeth Grŵp Dawnsio Hip-Hop / Stryd / Disgo (neu gyfuniad) Blwyddyn 10 a dan 19 oed gyda’u dawns ‘Duwies Hudoliaeth’.

Llongyfarchiadau enfawr i Martha Nel o Ysgol Brynrefail am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 7, 8 a 9, a hefyd i Olly Louis Fraser Jones o Adran Bethel am gael y wobr 1af yng nghystadleuaeth Dawns Hip-Hop / Stryd / Disgo (neu gyfuniad) Blwyddyn 6 ac iau.

Da iawn hefyd i Barti Bethel am gystadlu yn y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac iau heddiw.