GWYLIWCH: Anthem Cymru mewn Makaton

Antur Waunfawr yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Mae Antur Waunfawr wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy berfformio Hen Wlad fy Nhadau mewn Makaton.

 

Sefydlwyd Antur Waunfawr gan R. Gwynn Davies yn 1984, ac erbyn hyn mae’n fenter gymdeithasol flaenllaw sy’n darparu cyflogaeth a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu.

 

I ddathlu dydd nawddsant Cymru mae aelodau Antur Waunfawr wedi perfformio anthem genedlaethol Cymru mewn Makaton. Mae Makaton yn cael ei ddisgrifio fel system o gyfathrebu sy’n defnyddio cyfuniad o arwyddion, synnau a symbolau.

 

Defnyddir Makaton gan unigolion ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, Syndrom Down, anawsterau iaith, namau synhwyraidd ac anhawsterau niwrolegol eraill sy’n effeithio ar allu unigolion i gyfathrebu.