Gwylio adar yn Llanbêr

Antur Waunfawr yn cymryd rhan yn nigwyddiad yr RSPB

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
258879371_928359787864814

Criw’r Antur yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB

Cynhaliwyd Penwythnos Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB ar 28, 29 a 30 Ionawr 2022, ac roedd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gofyn i dreulio amser yn gwylio a chofnodi’r adar yn yr ardd, balconi neu fan gwyrdd lleol. Llynedd yng Nghymru, fe wnaeth 53,279 o bobl wylio adar dros gyfnod o awr.

 

Mae’r penwythnos yn cael ei gynnal bellach ers dros ddeugain mlynedd, ac wrth ddathlu mae’r RSPB yn honni bod 150 miliwn o adar wedi cael eu cyfrif fel rhan o’r digwyddiad, a bod hynny wedi rhoi darlun anhygoel i’r RSPB o gyflwr ein bywyd gwyllt.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld mor bwysig yw byd natur i’n hiechyd meddwl a’n llesiant, ac yn ystod y penwythnos bu aelodau’r Antur yn gwylio adar yng ngardd yr Antur ei hun ac yn Llanberis. Gwelwyd mwyeilch, pioden, titw tomos las, drudwy a robin goch ymhlith yr adar.

 

Wrth gwrs, gan ein bod yng Nghaernarfon, roedd yn amhosibl peidio â sylwi ar ambell wylan!