Sêr Cymru yn dathlu Diwrnod Syndrom Down y Byd

Ymunodd y sêr yn ymgyrch Antur Waunfawr

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
Untitled-design
275577453_382029810406733

Caryl Parry Jones

276000117_675464136907254

Arfon Haines-Davies

276008945_1105316230262485

Dewi Llwyd

275086432_1209385166134350

Gerallt Pennant

275747784_507967444074396

Siân Thomas

275932183_667359714516759

Robat Arwyn

275978295_307045771362757

Ifan Jones Evans

276046222_702556934103910

Y Welsh Whisperer

275990225_1629851310710125

Iris Rownd a Rownd (Karen!)

276002525_268240808832080

Dylan (Dylan a Neil)

275713647_361843092503457

Owain Tudur Jones

275964483_1797147723961488

Dafydd Iwan

275936348_1968678559980325

Iolo Williams

Bob blwyddyn ar Fawrth 21, mae Diwrnod Syndrom Down y Byd yn cael ei ddathlu i godi ymwybyddiaeth o’r syndrom. Eleni, ymunodd nifer o sêr enwocaf Cymru â’n hymgyrch arbennig yn Antur Waunfawr i godi ymwybyddiaeth.

Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu ar yr 21ain o Fawrth er mwyn cynrychioli’r broses unigryw sy’n digwydd pan fo’r 21ain cromosom yn treblu, proses sy’n achosi syndrom Down.

Bob blwyddyn, mae pobol yn cael eu hannog i wisgo sanau lliwgar neu batrymog, neu ddwy hosan nad ydyn nhw’n matsho er mwyn nodi Diwrnod Syndrom Down y Byd. Dechreuwyd yr ymgyrch ‘Lot of Socks’ gan Down Syndrome International i annog trafodaeth ynghylch amrywiaeth, a bod yn unigryw a chynhwysol ac i dderbyn pobol.

Mae gwefan Down’s Syndrome Scotland hefyd wedi awgrymu bod cromosomau yn edrych fel pâr o sanau.

Ddydd Llun, aeth Antur Waunfawr ati i gydlynu ymgyrch arbennig i nodi Diwrnod Syndrom Down y Byd, gan roi her i enwogion Cymru i wisgo eu sanau ffynci er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Ymhlith yr enwogion oedd Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Iolo Williams, Owain Tudur Jones a’r darlledwr Dewi Llwyd.

Mae’r lluniau wedi eu rhannu ar sianeli cymdeithasol Antur Waunfawr.

Yn Antur Waunfawr rydan ni’n credu bod ein hamrywiaeth yn gryfder. Mae ymgyrch ‘Lot of Socks’ yn achlysur ysgafn i ddathlu’r amrywiaeth hwnnw.

Roedd ein sylfaenydd, R. Gwynn Davies yn gredwr cryf y dylid dathlu pob aelod o’r gymdeithas fel unigolyn, egwyddor sydd wrth galon achlysuron fel hyn.