Mae GwyrddNi yn fudiad newydd sy’n gweithio dros gymunedau Dyffryn Peris, a phedair ardal arall yng ngogledd Gwynedd. Bydd GwyrddNi yn trefnu Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd, wedi eu ariannu gan Gronfa Cymunedol Y Loteri Cenedlaethol.
Be’ ydi Cynulliad Cymunedol? Yn ei hanfod, pobl yn dod at ei gilydd ydi cynulliad. Gyda GwyrddNi, mae’n ffordd o wneud penderfyniad. Yn hytrach na gofyn i wleidyddion wneud penderfyniadau, mae grŵp o bobol yn dod at ei gilydd i ddysgu a thrafod gwahanol faterion, a chytuno ar y ffordd orau ymlaen.
Yn achos ein Cynulliadau ni, mi fyddwn ni’n cael croestoriad o bobol sy’n cynrychioli poblogaeth Dyffryn Peris. Mi fyddwn ni’n cwrdd dros gyfnod o fisoedd i ddysgu mwy am effeithiau’r argyfwng hinsawdd, a gwahanol ffyrdd o ddad-garboneiddio, hybu byd natur, a byw’n fwy gwyrdd. Mi fydd aelodau’r Cynulliad yn llywio cyfeiriad y drafodaeth, ac ar y diwedd bydd gennym ni gasgliad o syniadau am bethau all weithio yn Nyffryn Peris a sut i fynd ati i’w gwireddu.
Lowri ydw i, a fi fydd yn hwyluso’r digwyddiadau yma yn Nyffryn Peris gyda chymorth ein partner, Cyd Ynni. Dwi’n angerddol dros greu cymunedau cynhwysol, cynaliadwy, creadigol a cydweithredol.
Fe welwch fi yn aml mewn caffis yn yr ardal, yn y llyn neu ar y llethrau a chlogwyni. Yn ferch o Fôn gyda ‘nghalon yn y mynyddoedd, dwi’n awyddus iawn i gael dod i nabod yr ardal yn well trwy eich straeon a’ch profiadau chi; o Ben-y-Pas i Fethel.
Ar y ffôn, ar lein, mewn caffi (gyda LFT negyddol) neu yn yr awyr agored – cysylltwch da chi i ni gael dod i nabod ein gilydd a rhoi tro ar lunio dyfodol gwyrdd llawn gobaith.
Bydd gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn cymeryd rhan yn y Cynulliadau yn dod trwy eich drws a’r cyfrnyngau yn yr wythnosau nesa’.
lowri@deg.cymru
07850352478