Roedd hi’n benwythnos Ail Rownd Rhagbrofol Cwpan Cymru Dydd Sadwrn. Wedi i Llanberis guro Bontnewydd yn y Rownd Rhagbrofol gyntaf taith i Gae Seilo i wynebu Y Felinheli oedd gan Lanberis yn yr ail rownd rhagbrofol.
Roedd hi am fod yn dasg i’r Darans wrth iddynt lygadu sioc gyda Y Felinheli yn chware 1 adran yn uwch na Llanberis yn y 3ydd Haen yn Gynghrair Ardal Gogledd Orllewin.
Aeth Y Felinheli ar y blaen wedi 17 munud. Croesiad o’r Chwith gan Tomi Llywelyn peniad gan amddiffyn Llanberis yn gwyro I’r postyn pellaf ac Iwan Owen yn penio’r bel yn ôl a’r draws y cwrt Y golwr methu delio a Tom Davies yn rhwydo i rhoi Y Felinheli ar y blaen.
Roedd Y Felinheli yn creu ond y cyfleuon oddi ar y targed neu amddiffyn Llanberis yn eu rhwystro. Cafodd Llanberis ddim llawer o gyfleuon yn ystod yr hanner cyntaf gyda’i cyfleuon gorau o giciau cornel.
Er y cyfleuon gan Y Felinheli yn yr hanner cyntaf ond 1 gôl oedd ynddi ar yr egwyl.
Ail hanner ac Llanberis angen creu mwy i ddod yn ôl i mewn ir gem. Y Felinheli yn cychwyn yr ail hanner gyda ambell I gyfle.
Llanberis yn pwyso a’r y tim cartref, daeth cyfle I Cai Edwards ac yna cyfle I Ifan Mansoor wedi rhediad gwych ar y chwith ganddo. Mi ddaru y Darans daro’r postyn wedi awr. Cic cornel o’r dde gan Dion Owen heibio bawb yn y cwrt ac y gic yn taro’r postyn pellaf a Llanberis yn dod yn agosach. Ond methu canfod y rhwyd.
Wedi 72 munud siom i Lanberis. Ymosodwr Felinheli Gruff John yn ennill y bêl yn ganol y cae gan rhedeg heibio amddiffyn Llanberis. Wedi rhediad John i’r cwrt cosbi tacl wych gan amddifynwr Llanberis Kurt Hellfeld ond y bel yn glanio yn syth i draed Iwan Owen ac ei ergyd yn canfod gornel isaf y rhwyd a’r Felinheli yn dyblu eu mantais 2-0.
Wedi’r Ail gôl mi daeth eilyddion I’r ddau dim. Ond doedd Llanberis methu creu cyfleuon wrth ymosod tra roedd y Felinheli yn dod yn agos at rhwydo unwaith eto. Cyn y diwedd daeth y 3ydd I’r Felinheli. Wedi Gwaith da gan yr asgellwr, daeth croesiad i mewn I’r cwrt o’r dde a’r ymosodwr Guto Huws yn trio y gic acrobataidd drost ei ben ond methu cael cysylltiad cywir gyda’r bel. Y bel yn rhydd yn y cwrt ac amddifyn Llanberis yn methu ei chlirio o’r cwrt a’r bel yn disgyn yn ôl I Huws wrth iddo rhwydo 3ydd I’r Felinheli.
Cafodd Llanberis cyfle ar ddiwedd y gem am gol gysur gyda Ifan Mansoor yn troi yn y cwrt ond arbediad da gan y golwr a pheniad gan Kurt Hellfeld o’r gic cornel ychydig heibio’r nod.
Y Felinheli yn ennill o 3-0 ac yn yr het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan Cymru. Yn anffodus rhediad Llanberis yn y Cwpan drosodd. Ac siwrne Clybiau’r Fro yn Cwpan Cymru drosodd am flwyddyn arall.