Cadair pwy?

Pwy enillodd Gadair Eisteddfod Waunfawr 1948?

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
Untitled-design-copy

Cadair Eisteddfod Bentref Waunfawr 1948

Mae Cadair Eisteddfod Bentref Waunfawr 1948 yn dodrefnu “byngalo ysbaid” yn y pentref, ond ofer fu’r ymdrech i ddod o hyd i’w henillydd.

 

Mae Byngalo Ysbaid Antur Waunfawr yn y pentref yn cynnig seibiant i unigolion ag anableddau dysgu a’u teuluoedd.

 

Ond mae’n fyngalo sy’n perthyn i’r fro leol hefyd, gyda’r gwaith ail-orchuddio wedi ei wneud gan artist lleol, Cefyn Burgess, a’r gwaith celf gan Panorama Cymru. Yn ogystal â hynny, mae’n gartref i gadair farddol Eisteddfod Bentref Waunfawr, 1948. Rhoddwyd defnydd newydd ar y gadair gan Cefyn hefyd, ac mae’r ailwampiad i’w weld yn y lluniau.

 

Ond tybed a oes un o ddarllenwyr BroWyddfa360 yn gwybod pwy oedd enillydd y gadair (os oedd enillydd, hynny yw!)

 

Mae’n siŵr bod gan rywuyn yn rhywle gofnodion o hen eisteddfodau’r pentref neu hen bapurau newydd?

 

Dylai unrhyw un a all fod o help gysylltu efo Osian yn yr Antur, osian@anturwaunfawr.cymru.