Brwydr Band Llanrug

Adfywio Band Llanrug ar ôl Cofid

Nel Pennant Jones
gan Nel Pennant Jones

Heb os cafodd Cofid effaith enfawr ar fand pres hynaf Cymru.

Gyda ymarferion yn dod i ben am gyfnod hir, a rhai aelodau wedi gadael cyn y pandemig, bu’n anodd iawn ail-gydio ac mae wedi bod yn waith caled i sicrhau nad oedd y band yn dod i ben.

Erbyn heddiw maent wedi dechrau adfywio’r band drwy ddenu aelodau newydd a pherswadio cyn-aelodau i ail-ymuno – yn cynnwys rhai wnaeth roi’r gorau iddi 30 mlynedd yn ol.

Mae’r band yn cynnal eu hymarferion bob nos Fercher am 7 o’r gloch ac yn dal i chwilio am aelodau newydd. Dros yr wythnosau diwethaf maen nhw hefyd wedi ail sefydlu’r band ieuenctid a ddaeth i ben oherwydd y pandemig. Mae eu hymarferion yn cael eu cynnal bob nos Lun.

Croeso i unrhyw un a diddordeb gysylltu a’r band drwy eu tudalen ‘FaceBook’.