AS yn ymweld â chynllun bwyd Cwm-y-glo a Llanrug

Mae Siân Gwenllian AS wedi diolch i’r gwirfoddolwyr am eu “gwaith anhunanol”

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd
208293859_321349279703328

Siân Gwenllian AS yn ymweld â’r fenter

Mae’r Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Arfon wedi ymweld â chynllun rhannu bwyd yng Nghwm-y-glo.

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan aelodau o Cyngor Cymuned Llanrug a Chwm-y-Glo a gwirfoddolwyrMae’n rhan o gynllun Fareshare, cynllun sy’n cymryd bwyd dros ben o ansawdd o’r diwydiant bwyd ac yn ei ddosbarthu i grwpiau cymunedol ac elusennau.

Mae’r cynllun Fareshare wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r cynllun ar waith yn Llanrug a Chwm-y-Glo ers Tachwedd 2020.

Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli’r ardal yn y Senedd, a dywedodd ei bod “yn fraint cael ymweld â thîm mor weithgar a thosturiol”

Mae’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn cynrychioli Cwm-y-glo ar Gyngor Gwynedd, ac yn rhan o’r cynllun rhannu bwyd. Dywedodd;

“Rydym yn ffodus o dderbyn 85kg o fwyd bob dydd Gwener, ac mae’r math o fwyd yn amrywio o wythnos i wythnos.

“Mae’r fan yn dod i Fangor, ac rydym yn mynd draw i gasglu’r bwyd.

“Yno hefyd mae cynllun bwyd Partneriaeth Ogwen a chynlluniau rhannu bwyd Bangor yn cael eu bwyd.

“Ar ôl cludo’r bwyd i ysgol Cwm-y-glo yn y bore mae gwirfoddolwyr lleol yn gosod y bwyd ar y byrddau, gan roi’r cigoedd yn yr oergell.

“Yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn mae gwirfoddolwyr y Cyngor Cymuned yn ymgynnull i rannu’r bwyd i fagiau ar gyfer teuluoedd, cyplau, ac unigolion.

“Yna mae’r pecynnau’n cael eu dosbarthu i gartrefi lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 o fewn ffiniau’r Cyngor Cymuned.”

Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;

“Mae sawl cynllun wedi egino ar draws yr etholaeth dros y flwyddyn ddyrys a aeth heibio, ac mae’n arwydd o’r dyletswydd mae pobol leol yn ei deimlo at ei gilydd.

“Mewn blwyddyn a fu’n llawn newyddion drwg, mae gwaith y mentrau hyn yn codi calon.

“Dyma bobol sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau

“Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr hynny am eu gwaith anhunanol.”