Pwy fydd cynghorydd newydd Llanrug?

Pwy yw’r pedwar ymgeisydd yn is-etholiad Cyngor Gwynedd dros ward Llanrug

gan Mared Roberts

Gyda dyddiau yn unig i fynd tan ddiwrnod pleidleisio is-etholiad Llanrug ar 25 Mawrth, dyma gyfle i fwrw golwg fanylach ar yr ymgeiswyr. Mae pedwar yn sefyll yn yr is-etholiad i ethol cynghorydd newydd i’r pentref yn dilyn marwolaeth y diweddar Gynghorydd Charles Wyn Jones; yn eu plith mae enwebai Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ogystal â dau ymgeisydd annibynnol.

Mae hi’n amser heriol i gynnal etholiad oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a bu’r cyfnod rhwng galw a chynnal yr is-etholiad hwn yn fyr hefyd. I ychwanegu at amodau anodd yr ymgeiswyr, doedd dim hawl ymgyrchu o ddrws i ddrws na thaflennu oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, felly ar-lein a dros y ffôn yn bennaf y maen nhw wedi ymgyrchu tan yn ddiweddar.

Yn ffodus codwyd rhai cyfyngiad ddydd Llun diwethaf mewn paratoad at etholiadau’r Senedd ar 6 Mai, a llwyddodd rhai ymgeiswyr i ddosbarthu taflenni drwy flychau post eisoes. Mae pethau wedi poethi yn Llanrug dros y dyddiau diwethaf yn sicr, gyda llochesi bysiau a ffenestri’r pentref wedi eu haddurno â phosteri’r ymgeiswyr. Nid is-etholiad diflas mo hon ac mae ymgeiswyr yn cynnig amrywiaeth fawr o ran polisi a phrofiad.

Pwy felly yw’r pedwar ymgeisydd yn is-etholiad Cyngor Gwynedd dros ward Llanrug?:

Beca Brown, Plaid Cymru

Mae Beca Brown yn ffigwr gweithgar yn y pentref ers blynyddoed; a hithau eisoes yn gynghorydd cymuned, gobeithia ennill y sedd dros Blaid Cymru fel y diweddar Gynghorydd Charles Wyn Jones.

Mae Beca Brown yn byw yn y ward yn Llanrug gyda’i theulu ers 16 o flynyddoedd. Yn gyn newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu, mae hi’n gweithio i’r cwmni dysgu Cymraeg ar-lein, SaySomethinginWelsh.

Fel cynghorydd cymuned, mae wedi bod yn weithgar ar brosiectau bwyd yr ardal, y cynlluniau cinio dydd Sul, pecynnau bwyd a rhoddion FareShare yn ystod y cyfnod clo. Mae hi hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Brynrefail, yn ogystal â bod ar bwyllgorau eraill yn y pentref.

Meddai Beca Brown: “Braint a phleser fyddai cael y cyfle i weithio dros bobol Llanrug a bod yn llais effeithiol i’r pentref yn y cyngor.

“Cyfiawnder cymdeithasol sydd yn fy ngyrru ac rydw i wedi ceisio rhoi llais i’r rhai sydd heb lais drwy gydol fy ngyrfa deledu drwy gynhyrchu cyfresi ar faterion fel tlodi, iechyd ac anabledd. Mae cael y cyfle i rannu bwyd i’r bobol sydd ei angen yn ystod y pandemig wedi dangos imi beth sy’n bosib yn lleol, a gobeithiaf ehangu ar y gwaith yma yn ogystal â rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’r economi leol.”

Mae Beca Brown yn ymgyrchu dros ddiogelwch cymunedol, gofal dros eraill a hybu’r economi.

 

Calum Davies, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Un o Ddyffryn Ogwen yw Calum Davies yn wreiddiol ac mae’n byw yn Llanrug ers 2019. Yn ogystal ag ymgeisio yn is-etholiad Llanrug, mae wedi ei ddethol gan ei blaid i sefyll yn etholiad y Senedd dros Arfon eleni; ef hefyd oedd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau San Steffan y llynedd ar gyfer sedd De Clwyd.

“Dwi a fy nyweddi wedi ein magu mewn pentrefi ac roeddwn i eisiau setlo mewn pentref oedd yn cynnig popeth roedden ni’n ei garu wrth dyfu i fyny.

“Mae helpu eraill wedi bod yn bwysig i mi erioed ac fe hoffwn i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau wnaeth fy nwyn i fyny.

“Un o’r pethau hoffwn i ei daclo yn y pentref yw’r gor-yrru ar Ffordd Llanberis. Dwi’n gwybod fod llawer o bobol yn poeni am geir a beiciau modur yn gyrru’n gyflym ar y lôn drwy’n pentref. Fe hoffwn i gyflwyno mesurau arafu traffig effeithiol er mwyn gwneud y lôn yn fwy diogel.”

“Mi hoffwn i’r cyfle i gynrychioli’r bobol yn yr ardal dwi’n byw ynddi a dwi’n gobeithio wnewch chi ystyried rhoi cyfle i mi.”

Cynrychioli ei gymuned a thaclo gyrru peryglus yn y pentref yw blaenorieth Calum Davies.

 

Richie Green, Annibynnol

Wyneb cyfarwydd arall i lawer yn yr ardal yw Richie Green. Ymddeolodd o’i swydd fel Uwch Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn ddiweddar wedi gweithio fel heddwas am dros 30 mlynedd.

“Yn ogystal â bod yn gyfrifol am blismona dros Wynedd a Môn roedd gen i gyfrifoldeb ledled Gogledd Cymru am ddefnyddio’r iaith Gymraeg o fewn plismona lleol,” meddai.

Ac yntau wedi byw yn yr ardal ers dros 30 mlynedd, mae’n gyn lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Brynrefail a bu’n weithgar gyda thîm pêl-droed iau lleol.

“Rwyf wedi gweithio ar ran y cyhoedd ers dros 30 mlynedd yn delio â phryderon cymunedau lleol, ac rwy’n awyddus i barhau yn y rôl hon fel eich cynghorydd.

“Mae’n bwysig i mi sefyll fel ymgeisydd Annibynnol i fod yn rhydd o ddylanwad gwleidyddol a gallu canolbwyntio ar anghenion y ward. Credaf fod gennyf y profiad angenrheidol, y brwdfrydedd a’r amser i gynrychioli ward Llanrug.”

Blaenoriaethau Richie Green yw diogelwch ffyrdd, delio â’r broblem o faw ci yn yr ardal a chadw mewn cysylltiad ag etholwyr.

 

Martin Bristow, Annibynnol

Mae Martin Bristow o’r Felinheli yn ymgeisio am sedd Arfon yn etholiadau’r Senedd yn mis Mai ac wedi creu gwefan yn rhestru ei safbwyntiau ar lawer o faterion.

Mae’n sefyll hefyd yn is-etholiad Llanrug ac ar dudalen Facebook ei ymgyrch mae’n mynegi ei farn y dylai cynghorwyr sir gael eu hethol i ofalu am anghenion y sir yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag etholaeth unigol ac y dylid diddymu cynghorau cymuned. Nid yw felly wedi cyflwyno ei weledigaeth dros bentref Llanrug ond mae’n dymuno diwygio Cyngor Gwynedd o’i gwr gan roi pwyslais ar gryfhau’r economi. Ni fyddai chwaith yn ail ymgeisio dros ward Llanrug yn etholiad 2022 gan y bydd yn sefyll yn y Felinheli yn lle hynny.

Nid yw Martin Bristow yn fodlon ymhél â’r wasg nag yn arddel yr iaith Gymraeg, felly ni fu modd cael datganiad ganddo ar gyfer yr erthygl hon. Mae ei safbwyntiau ar sut i ymdrin â’r anghenus, yn erbyn dysgu am ddiwylliant a hunaniaeth mewn ysgolion ac am yr iaith Gymraeg – ymhlith pethau eraill, i’w gweld ar ei wefan a thudalen Facebook.