“Dynes oedd o flaen ei hamser”

Teyrnged i Pat Larsen

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
4Diolch i'r teulu am y llun

Roeddwn yn drist iawn o glywed am farwolaeth Pat Larsen, dynes oedd o flaen ei hamser. Roedd ei chyfraniad yn un aruthrol, nid yn unig i’w chymuned leol, ond i Wynedd a Chymru gyfan.

 

Fe’i hetholwyd am y tro cyntaf yng nghanol y 1960au, ac erbyn iddi ymddeol o siambr y cyngor yn 2012 hi oedd y cynghorydd a wasanaethodd am y cyfnod hiraf yng Ngwynedd. Etholwyd Pat yn wreiddiol fel cynghorydd ym Mangor, a hynny yn gynnar yn y 1950au. Hi oedd yr unig aelod benywaidd ar gyngor y ddinas.

 

Aeth yn ei blaen i gael ei hethol yn gynghorydd sir dros ward Llanddeiniolen ac yn hwyrach, dros ward Penisarwaun. Bu’n athrawes, yn ogystal â gwasanaethu fel Maer ar hen Gyngor Dosbarth Arfon.

 

Hi oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Gwynedd fel ag y mae heddiw.

 

Arweiniodd y ffordd i ferched fel fi yn ei hysbryd penderfynol di-ildio ac roeddwn i’n ei ystyried yn fraint cael gwasanaethu ochr yn ochr â hi fel cynghorydd.

 

Rwy’n meddwl am y teulu ar adeg o dristwch a galar anochel, ond byddaf hefyd yn dathlu bywyd Pat Larsen, ac ar lefel bersonol, byddaf yn diolch am gael ei ’nabod a dysgu o’i doethineb a’i dyfalbarhad.