Croesawu Babi Mewn i Fyd Cofid

Mae Cofid-19 wedi cael effaith ar pob elfen o fywyd, gan gynnwys y siwrne o fod yn feichiog.

Annest Williams
gan Annest Williams
Croesawu Babi Mewn i Fyd Cofid

Cofid. Gair pum llythyren doedd neb yn gyfarwydd a ’chydig dros flwyddyn yn ôl. Gair sydd bellach yn rheoli mwyafrif o’n bywydau.

Mae ffeindio allan fod chi’n feichiog yng nghanol pandemig yn ‘rollercoaster’ o emosiynau. Mae’r gwisgo masgiau i sganiau ac apwyntiadau, gorfod rhoi’r newyddion anferth i deulu dros y ffon, a gorfod prynu popeth o’r we gan fod neb yn cael mynd i’r siopa. Mae hyn i gyd cyn cychwyn sôn am y ffaith fod chi’n gyfrifol o drio tyfu plentyn tu mewn i chi tra mae’r byd yn disgyn i ddarnau!

Dwi’n teimlo cwbl genfigen tuag at famau sydd wedi croesawu plant mewn i’r byd cyn cofid, a dwi’n teimlo cenfigen tuag at y genethod sydd am eni ar ôl i fywyd mynd yn ôl i ryw fath o normal. Dydy fy mhrofiad o fod yn fam am y tro cyntaf ddim am fod yn debyg i beth ddychmygais, ac mae hynny’n brifo.

Yn ôl ym mis Awst pan welais y canlyniad positif, teimlais gyffro llwyr fod fi a fy mhartner am gael person bach sydd yn hanner ni’n dau, ond yn sydyn iawn, cafodd y teimlad yma ei gysgodi gan bryderon. “Sut ydw i’n fod yn hapus am y newyddion pan mae ’na gymaint o bobl yn mynd drwy bethau mor anodd ar y funud? Sut ydw i’n fod i stopio fy mhlentyn rhag cael y firws? Be os fydd o/hi methu cyfarfod ei neiniau a theidiau am fisoedd ar ôl iddo gyrraedd?” Meddyliau dydy dynes ddim yn fod i gael ar ôl darganfod newyddion mor arbennig.

Yn wahanol i rai cyplau, mi oedden ni’n ffodus iawn gan gafodd Danny ddod i bob sgan. Dwi mor ddiolchgar fod o wedi gallu rhannu’r profiad o weld ein plentyn am y tro cyntaf, ond mi ydw i wastad yn cofio pa mor unig oedd gorfod disgwyl yn y dderbynfa ben fy hun cyn cael fy ngalw i mewn. Mae disgwyl i weld dy blentyn am y tro cyntaf yn amser mor ofnus ac yr unig beth mi oni angen oedd iddo fod yn gafael fy llaw drws nesaf i mi.

Paratoi am y babi

Mae’n ddigon hawdd meddwl mewn adegau fel ‘ma mai ond y fam a’r tad sydd yn cael ei effeithio, ond mae ‘na llawer fwy o bobl yn rhannol mewn beichiogrwydd. Rhai o’r rhain ydi neiniau a theidiau’r bychan. Mae babi Griffith am fod yn ŵyr cyntaf i’r ddwy ochr, felly mae’r holl broses yn ddierth i bawb.

Dwi’n cofio mam yn dweud pa mor drist oedd hi fod ni heb allu cael y profiadau mae mam a merch yn arfer cael pan mae’r ferch yn feichiog. Pethau bach fel, mynd am ddyddiau allan i siopa popeth babi, mynd am ginio a jest joio amser fel mam a merch cyn i ni droi i fod yn nain a mam.

Mae llawer o famau-i-fod yn gwneud ffrindiau tra’n feichiog wrth fynd i ddosbarthiadau antenatal. Cyfle i rieni rannu bond yn eu pryderon a’u profiadau. Rhywun i wrando a deall eu problemau. Oes, mae ’na dal dosbarthiadau yn mynd ymlaen dros Zoom ond mae’r elfen o gymdeithasu wedi cael ei dynnu i ffwrdd, sef rheswm pwysig dros y dosbarthiadau hyn.

Newid napi. CPR ar fabi. Sut i wisgo eich plentyn mewn gwahanol dywydd. Sut i ysgrifennu cynllun geni. Dyma rhai pethau sydd yn cael ei ddysgu mewn dosbarthiadau. Amser i chi ofyn cwestiynau, ac i chi dyfu bond gyda’ch partner. Ond rŵan, mae rhaid dysgu’r holl bethau dros y we neu drwy ddarllen llyfrau.

Dydw i erioed wedi bod yn un am ddathliadau mawr (bach o hermit rili…) ond dwy peth mi oni’n edrych ymlaen at oedd cael cawod fabi a hefyd, dathlu rhyw y bych. Dwi’n hynod o lwcus i gael ffrindiau sydd werth y byd gan drefnu te prynhawn bach i mi yn fis Tachwedd (pan roedd pedwar cartref gwahanol yn cael bod efo’i gilydd) ar ôl i mi wybod mai hogyn bach oni’n cael.

Ond, mi ydyn ni rŵan mewn cyfnod clo ARALL a dwi 36 wythnos yn feichiog gyda chanllawiau dal mewn lle, felly mae’r siawns o finnau’n cael cawod fabi wedi mynd lawr y draen. O wel, yr unig beth sy’n bwysig ydi fod canllawiau’n llacio erbyn yr amser mae’r dyn bach yn cyrraedd a gallai teulu a ffrindiau gyfarfod fy mab.

Cyfnod Mamolaeth

Cyn cofid, mae’n siŵr buaswn yn edrych ymlaen am allu mynd am ginio gyda’n ffrindiau yng nghanol yr wythnos, gallu mynd am dro gyda’r cwn, gallu mynd i siopa dillad babi gan gyfri lawr yr amser tan dwi’n cael cyfarfod fy mab. Ond, mae’n rhaid bod yn onest, er fy mod yn hapus i gychwyn mamolaeth yn feddyliol ac yn gorfforol, mae ’na elfen o ofn yng nghefn fy mhen. Ofn o’r unigrwydd sydd yn dod gyda mamolaeth mewn pandemig. Mae’r cyfnod mamolaeth dychmygais wedi cael ei sgriblo allan, ac yn ei le, mi fyddai’n eistedd yn ty o ddydd i ddydd yn disgwyl i’r diwrnodau basio. Mae genethod beichiog yn cael eu nodi fel ‘clinically vulnerable’ sydd yn meddwl fod rhaid lleihau ein cymdeithasu i’r minimwm. Jest lwcus fy mod wedi cychwyn y blog Y Fam Sydd Ddim yn Glam i gadw fi’n occupied tan i’r babi newydd gyrraedd!

Bod yn Realistig

Pan ges i’r canlyniad positif yn ôl ym mis Awst (ar ôl y cyfnod clo cyntaf, ac yng nghanol Eat Out To Help Out) mi oedd ’na gobaith (ella bach yn naïve o’n hochr fi) fod fi am allu cael enedigaeth arferol, ond mae’r cyfnod clo diweddaraf yn gwneud i hyn edrych fwy fel breuddwyd.

Ar y funud, mae canllawiau mewn lle sydd ond yn galluogi i bartneriaid ymuno a’r ferch pan maent wedi pasio 3cm ‘dilated’, sef ‘active labour’. Dyma rywbeth dwi erioed di gallu cael fy mhen o gwmpas.

Mae’r GIG wedi bod yn absoliwt arwyr drwy’r holl pandemig, ac mae bob bydwraig a meddyg wedi bod yn arbennig. Fedra i ddim cychwyn meddwl pa mor ofnus ydi gadael eich teuluoedd yn ddyddiol i fynd i’r gweithle sydd yn rhemp gyda’r firws hon, jest i alluogi fod claf fel fi’n cael gofal. Am hyn, mi fyddai’n ddiolchgar am weddill fy oes. DIOLCH GIG.

Mae ’na dal gymaint o gwestiynau am yr holl beth. Fydd fy mhartner yn cael bod efo fi drwy’r holl broses, ta jest… y ’main event’? Fydd o’n cael aros gyda fi a’i fab am hirach nag pum munud yntau cael ei hel allan gan adael fi ar ben fy hun gyda pherson newydd i edrych ar ôl? Fydd fy mhlentyn yn meddwl fod ei holl deulu hefo masgiau fel cegau?

Ar y funud, does ddim atebion i’r cwestiynau yma. Ond un peth sydd yn cadw fi fynd ydi gwybod fy mod am gyfarfod fy mab mewn mater o dair wythnos. Dwi wastad yn clywed mamau yn dweud fod eu plant wedi goleuo eu bywydau pan nad oeddent yn meddwl fod angen eu goleuo. Ac os dwi’n gwbl onest, mi oni’n gweld hyn i gyd yn fach o cliché. Ond, mi fyddai am byth mewn dyled i’r dyn bach ar ôl iddo ddewis fi fel mam ac i deimlo fo’n tyfu tu mewn i mi mewn blwyddyn llawn poen a thrychineb. A dyna pam fydd fy niwrnodau llawn goleuni o hyn ymlaen.

Er mwyn cadw llygaid ar cynnydd yr adeg mamolaeth, beth am i chi fynd draw i Instagram @notsoglammam_ am y diweddara’.