Bangor 1876 3-0 Llanberis

Y darans yn chwara’n dda er gwaetha’r sgôr.

gan Osian Glyn

3.9.21
Stadiwm Prifysgol Bangor, Treborth
Dyfarnwr – Robin Williams
Nifer yn gwylio – 312

Tim Llanberis:

B. Jones; C. Green, T. Owen, K, Hellfeld, B. Rowlands; G. Maxwell (c), T. Collins, R. Owen; C. Macdonald, I. Mansoor, T. Saynor.
Eilyddion: M. Edwards, H. Gwynn, G. Wakeham, G. Jones, A. Pritchard.

Goliau:

1 – L. Davies (16 munud)
2 – C. Barry (65 munud)
3 – C. Jones (71 munud)

Cardiau:

Llanberis (2) – T. Owen, I. Mansoor
Bangor 1876 (1) – C. Jones

Cychwyn cryf gan Llanber, tan i Bangor 1876 sgorio. Profiad y tîm cartref yn dangos ar ol y gôl, ond heb droi’r meddiant yma yn gyfleoedd.
Ail hanner gwych gan Llanberis, ac yn anlwcus iawn i ildio dwy gôl. Y bel yn hedfan ar draws gwyneb y gôl ambell waith, a taro’r bar. Y sgor ddim yn adlewyrchiad o’r perfformiad.