gan
Bethan Wyn Jones
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/7/2020/06/dolbadarn-640x396.jpg?n)
Dymuna holl staff Ysgol Dolbadarn ddiolch i deuluoedd y pentref am eu cefnogaeth yn ystod y ‘clo mawr’. Bu’r plant yn gweithio’n ddiwyd adref ar eu cyfrifiaduron gan gadw mewn cysylltiad gyda’r ysgol. Mae wedi bod yn fraint derbyn lluniau, clipiau fideo a thasgau gan y disgyblion yn dangos y ffordd arbennig y maent wedi ymdopi gyda’r cyfnod ansefydlog hwn.