Ddechrau’r mis [Mawrth] daeth y newyddion digalon fod Rhun Williams wedi gorfod ymddeol o’i yrfa rygbi broffesiynol gyda Gleision Caerdydd ac yntau ond yn ei 20’au cynnar. Wedi derbyn anaf tra’n taclo mewn gêm yn erbyn y Zebra cafodd effaith ar gyflwr ei wddf ac yn benodol nerfau ei wddf. Er dwy flynedd o driniaeth ac ymarfer rhaid oedd ildio yn y pen draw. Yr oedd darllen y teyrngedau gan gyd-chwaraewyr yn siarad cyfrolau am allu, ymroddiad a phoblogrwydd Rhun fel person ac aelod gwerthfawr o sawl carfan. O’r dyddiau cynnar gyda chlwb Caernarfon roedd yn hollol ymroddedig i’r gamp. Roedd y sgiliau cynhenid ganddo a hyder yn ei allu. Fel cefnwr y cofir Rhun, yn daclwr dibynadwy ac yn gadarn o dan y bêl uchel. Cafodd gyfnod ar yr asgell hefyd gyda’r Gleision ac ar un cyfnod roedd yn cadw yr asgellwr rhyngwladol, Alex Cuthbert, allan o’r tîm. Gwelodd Warren Gatland botensial yn natblygiad Rhun a bu yn aelod ar brydiau o’r garfan genedlaethol. Yn sicr, roedd potensial am gap llawn i Rhun rhyw ddiwrnod.
Yn bennaf cysylltwn Rhun â’i nifer o berfformiadau i dîm dan 20 Cymru, yn enwedig ar Barc Eirias. Yn yr oedran yma daeth yn aelod o dîm a gipiodd y Gamp Lawn ac a chwaraeodd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Cefais y fraint o eistedd wrth ochr y tad balch, Robin a’r brawd bach Rhodri, ar faes Donnybrook yn Nulyn pan enillodd Rhun ei gap cyntaf a Chymru yn ennill gyda thipyn o ddawn ymosodol. Atgof arall o’r noson honno oedd y ‘linell agored’ o Donnybrook dros y môr i Lanrug ble roedd mam falch yn gwylio ei mab ar y teledu. Sylwi hefyd mor boblogaidd oedd yr unig ‘Gog’ gyda gweddill y garfan.
Beth bynnag fydd yn ei wynebu yn y dyfodol teimlaf bod gan Rhun gymeriad cadarn fydd yn dwyn elw iddo. Yn ddi-os yn ei yrfa gymharol fer bu yn symbyliad i nifer o chwaraewyr ieuanc y Gogledd. Diolch i ti Rhun, a dymunwn y gorau i ti.
I Rhun
Un ergyd, brwnt bu byd y bêl – i Rhun
ar riniog ei orwel.
I’r gwych dan y bêl uchel,
yn y cof bydd ceisiau cêl.