Perchennog caffi Pantri yn Llanberis yn croesawu codi tâl ar dwristiaid i ymweld ag Eryri

Prysurdeb yr Wyddfa yn ystod y cyfnod diweddar wedi bod yn “hollol wirion” meddai.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae perchennog caffi Pantri yn Llanberis wedi ymateb i benderfyniad Cyngor Gwynedd i ystyried – a hynny “ar frys” – y posibilrwydd o godi tâl ar dwristiaid sy’n ymweld â’r Parc Cenedlaethol, ac yn benodol yr Wyddfa.

Yn ôl y Cynghorydd Glyn Daniels:  “Rwy’n cynnig fod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

Mewn ymateb i’r datblygiad, dywed perchennog caffi Pantri, Hayley Griffiths:

“Mi fysa codi tâl ar dwristiaid i fynd fyny’r Wyddfa yn dod a refeniw i mewn i warchod y llwybrau ac yn rhoi pres yn y pot i alluogi pobl i edrych ar ôl yr ardal.”

Ychwanegodd nad yw yn “deg i fod yn dibynnu ar wirfoddolwyr” i ofalu am lanhau’r ardal.

Wrth holi ynglŷn y pryder y gall godi ar dwristiaid i ymweld â’r ardal gael effaith negyddol ar ei busnes, dywedodd Hayley Griffiths:

“Yn ystod y lockdown, mi oedd pobl yn dod yma a parcio lle’r odden nhw’n licio ac wedyn yn cael £30 o ffein, ac yn gweld o fel cheap day out.

“Maen nhw’n mynd i ddod yma beth bynnag, ond mae’n rhaid i ni fod yn gall o ran y ffioedd rydan ni’n ofyn, dim ond digon i allu cyfro’r costau.”

Mae’r ddynes fusnes yn dweud bod dyletswydd ar dwristiaid i fod yn cyfrannu tuag at gostau cynnal a chadw’r mynyddoedd, y llwybrau a’r ardal leol.

Dywed hefyd bod prysurdeb yr Wyddfa yn ystod y cyfnod diweddar wedi bod yn “hollol wirion”.