Parc Cenedlaethol Eryri yn pryderu cyn penwythnos Gŵyl y Banc

Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn ofni y bydd pobol yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi galw ar bobol i gadw at reolau’r gwarchae wrth iddynt bryderu am benwythnos Gŵyl y Banc prysur.

“Mae’n gyfnod argyfyngus i’n cymunedau a’n gwasanaethau iechyd yma yn y Gogledd gan mai dim ond nawr rydym yn cyrraedd y brig o ran achosion o Covid-19.” meddai Tra bod Owain Wyn, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl pan fydd yn ddiogel – yn ddiogel i chi, ac yn ddiogel i’n cymunedau.”

Dywed Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru eu bod yn ofni y bydd pobol yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio cael mynediad i’r parciau cenedlaethol dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Maent hefyd wedi rhybuddio y byddai hynny yn rhoi cymunedau gwledig bregus y parciau mewn mwy o berygl o’r coronafeirws.

Mae awdurdodau’r parciau am atgoffa holl drigolion y Deyrnas Unedig fod y gwarchae dal mewn grym yng Nghymru ac mai dim ond teithiau hanfodol sy’n cael eu caniatáu.

Darllenwch fwy am hyn ar Golwg360