diolch Elin am rannu’r hanes gwerthfawr yma. mae’n rhyfeddol shwt mae elfennau o hanes yn teimlo eu bod yn cael eu hailadrodd!
‘Pan y clywson gyntaf… fod y clefyd yn gwneyd difrod mawr yn y dwyrain bell… yr oeddym ni yn y wlad hon yn tueddu i ddiystyru a gwawdio y syniad fod clefyd o’r natur hwn, – dim ond annwyd cyffredin, felly y tybiem ar y pryd, – yn peri y fath ddifrod, anghysur ac ofn. Ymledodd yr haint gyda chyflymder i wahanol wledydd, ac yn fuan clywsom ei fod yn anrheithio Paris a Berlin. Yna, cawsom brofi ei ymosodiadau yn y wlad hon, ac mewn byr amser ymledodd dros pob parth o’r wlad, gan ymosod ar bob oed a sefyllfa… nid anhwylder dibwys ac un i’w ddiystyru ydoedd.’ Y Genedl Gymreig, 17 Mehefin 1891, t. 7.
Er mor ddychrynllyd o addas ydi’r geiriau yma heddiw, fe’u hysgrifenwyd 130 o flynyddoedd yn ôl yn ystod pandemig Influenza 1889-93 neu’r Russian Flu fel y cyfeiriwyd ato ym mhapurau newydd y cyfnod.
Roedd dros ddeugain mlynedd wedi mynd heibio ers y pandemig influenza diwethaf ac er bod y ffilw yn ymwelydd blynyddol pob gaeaf ac yn achosi salwch a marwolaethau roedd meddygon wedi tyfu’n gynyddol ddibryder yn ei gylch: yn grediniol mai problem dymhorol yn unig oedd yr ‘anwydwst.’
Roedd y byd yn le gwahanol iawn yn 1889 a ma’ hi’n rhyfedd (ac yn anghyfrifol bron) i geisio tynnu cymariaethau rhwng pandemig o’r gorffennol â’r hanes byw yr ydym oll yn ei brofi rŵan. Bwriad y blog yma ydi edrych ar effaith y pandemig ar bentrefi’r chwareli a’u trigolion.
Mae haneswyr yn gytûn mai yng nghanoldir Ymerodraeth Rwsia (Uzbekistan heddiw) y dechreuodd y pandemig yn ystod Gwanwyn 1889, ac oddi yno ymledodd ar hyd y prif ffyrdd masnachu cyn cyrraedd St. Petersburg ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Ymhen y mis roedd y clefyd wedi cyrraedd prif ddinasoedd Ewrop gydag achosion niferus yn Vienna, Paris a Berlin. Ar y cyfandir, dilynodd lwybr y rheilffyrdd: ymledodd wrth i bobl a oedd wedi eu heintio symud o le i le. Roedd gweld llwybr clir ei daith yn cadarnhau’r ddamcaniaeth gymharol newydd mai trwy gyswllt â phobl yr oedd afiechydon heintus yn cael eu trosglwyddo ac nid ar y gwynt neu trwy ffyrdd amrywiol eraill. Cyrhaeddodd Llundain ym mis Rhagfyr 1889 ac wrth i unigolion deithio gartref i dreulio’r Nadolig gyda’u teuluoedd ymledodd i bob cornel o’r Deyrnas Unedig.
Dros y bedair blynedd nesaf profwyd pedair ton o’r salwch – Ionawr-Chwefror 1890, Ebrill-Mai 1891, Ionawr-Chwefror 1892 a Rhagfyr-Ionawr 1893-4.
Cyn iddo gyrraedd gogledd-orllewin Cymru mi fyddai’r chwarelwr uniaith a’i deulu yn gyfarwydd iawn â thrywydd y clefyd. Roedd stori yr epidemig Ewropeaidd wedi bod yn drwch ym mhapurau newydd y cyfnod ers wythnosau.
Ymhen y mis, roedd effeithiau yr influenza i’w gweld ar draws y broydd llechi. Yn Nyffryn Peris roedd nifer uchel o chwarelwyr yn dioddef, erbyn canol Chwefror 1890 roedd dros 300 o chwarelwyr Dinorwig wedi’u taro’n wael. Dros y mynydd ym Methesda, ‘owing to the prevalence of influenza’ roedd holl ysgolion y fro wedi bod ar gau ers dros dair wythnos, ychwanegwyd bod nifer uchel o chwarelwyr y Penrhyn hefyd ‘on the sick list.’ Yn Nyffryn Nantlle gwelwyd ‘a serious outbreak of influenza… at Groeslon, Llandwrog, near Carnarvon’ ac yn ei sgil roedd holl ysgolion y dalgylch ar gau.’ Caewyd ysgolion ym mro Ffestiniog hefyd, adroddwyd nad oedd ‘yr un tŷ… trwy yr ardal nad oedd rhywun wedi bod o dan y clefyd.’ Erbyn mis Mawrth 1890 honnwyd bod dros 2,000 o drigolion plwyf Ffestiniog yn dioddef.
‘Mae y rhagarwyddion yn ddigon amlwg er nad yw yr anhwyldeb yn effeithio ar bawb ‘run fath.’
Roedd symptomau’n amrywio: gan amlaf roedd cleifion yn dioddef gwres uchel am pump i bymtheg diwrnod; ias o oerfel, yn enwedig yng ngwaelod y cefn; poen eithriadol yn y cyhyrau; y trwyn yn rhedeg; llygaid dyfrllyd a chwyddedig; tisian a pheswch sych; colli chwant bwyd a’r gallu i arogli.
Melltith y dosbarth gweithiol a’r tlawd oedd clefydau fel colera; tra’r oedd y Russian Flu ar y llaw arall yn ymosod ar bob haen o gymdeithas: bu Tsar Rwsia, Brenin Gwlad Belg, Ymerawdwr yr Almaen a Phrif Weinidog Prydain oll ‘yn glaf o dan yr anwydwst.’
Yn ardaloedd y chwareli roedd y gwas a’i feistr yn hwynebu yr un perygl. Ym mis Ionawr 1891 methodd yr Arglwydd Penrhyn, perchennog Chwarel y Penrhyn ym Methesda feirniadu cyfarfod llenyddol ‘pwysig’ yn Eglwys Glan Ogwen ‘oherwydd fod Arglwyddes Penrhyn [Gertrude Jessie Douglas-Pennant] yn dyoddef dan yr influenza.’ Ym mis Mawrth 1892, bu farw Charles Hussey Panton Vivian, brawd W. W. Vivian, Rheolwr a Chyfarwyddwr Chwarel Dinorwig yn dilyn ‘an acute attack of influenza.’ Doedd neb yn ddiogel!
Roedd arian wrth gwrs yn galluogi teuluoedd cefnog i dalu am wasanaeth meddyg. Yn y cyfnod Fictoraidd roedd darpariaeth iechyd a lles sylfaenol yn cael ei weinyddu trwy delerau Deddf ‘Newydd’ y Tlodion 1834.
Yn swyddogol – o dan Ddeddf ‘Newydd’ y Tlodion – roedd cymorth yn gyfyngedig i unigolion anghenus yn unig, i dderbyn cymorth byddai’n rhaid mentro trwy byrth y tloty ar delerau bwriadol greulon. O dan fesur 1834, unwyd nifer o blwyfi ynghyd ledled Cymru a Lloegr i ffurfio Undebau’r Tlodion. Ar draws Cymru, ffurfiwyd 48 Undeb newydd a chyfrifoldeb yr Undebau oedd adeiladu tlotai a hynny ar draul trethi’r tlodion Ymhob Undeb roedd perchnogion eiddo â’r hawl i ethol unigolion ar Fwrdd Gwarcheidwaid a’r rheiny fyddai’n gyfrifol am weinyddu cymorth i’r tlawd. Rhannwyd Undebau yn ddosbarthiadau, gyda phob dosbarth yn penodi swyddogion meddygol a swyddogion brechiad a fyddai’n gallu ymdopi â phoblogaeth ac ardal o faint rhesymol a’u cyfrifoldeb nhw oedd gofalu am dlodion sâl.
Fe roddodd y Russian Flu straen sylweddol ar Fyrddau Gwarcheidwaid, eu swyddogion a’u staff. Roedd salwch yn atal unigolion rhag gweithio ac ennill bywoliaeth, yn naturiol felly, fe welwyd cynnydd yn y niferoedd a fu’n hawlio cymorth gan eu plwyfi. Ym mis Gorffennaf 1891, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer a ddibynai ar gymorth plwyf yn Undeb Ffestiniog, ‘owing to the recent outbreak of influenza.’ Cwynodd Meistr Tloty Penrhyndeudraeth bod nifer uchel o dlodion yn dioddef a dim digon o staff i ofalu amdanynt, teimlai ei bod hi bellach yn amhosib ‘as things were… for the matron to act as matron and nurse.’
Roedd swyddogion a staff Undebau eu hunain mewn perygl wrth iddynt ddod i gyswllt agos â degau o gleifion pob dydd. Yn Nyffryn Peris bu farw ‘W. R. Whiteside, Relieving Officer for the Llanddeiniolen district’ ym mis Chwefror 1890 – ‘he was attacked by the prevailing epidemic.’
Ar draws y bröydd llechi, datblygwyd rhwydwaith o gymdeithasau cyfeillgar amrywiol. Yn eu hanfod, roeddent yn fudiadau lle’r oedd dynion a oedd yn adnabod ei gilydd neu’n dilyn yr un alwedigaeth yn talu arian rheolaidd tuag at gronfa gyffredin. Yn ystod cyfnodau o galedi roedd y dynion yn gallu troi at eu cronfa am gymorth. Eu prif bwrpas oedd sicrhau incwm i’r gweithiwr yn ystod cyfnod o salwch yn ogystal â thalu costau cynhebrwng. Roedd mudiadau cydgymorth fel cymdeithasau cyfeillgar yn galluogi’r dosbarth gweithiol i amddiffyn eu hunain yn wyneb salwch ac yn eu hatal rhag dibynnu ar elusen. Er bod rhai o ddeddfau llym y llywodraeth wedi annog dynion i ffurfio cymdeithasau cyfeillgar nid oeddent yn fudiadau a oedd yn deillio’n uniongyrchol o ddeddfwriaeth; cawsant eu sefydlu yn sgil y brawdgarwch a fodolai ymysg dynion cyffredin.
Roedd cymdeithasau cyfeillgar yn fudiadau a oedd yn tyfu a lleihau trwy gydol eu bodolaeth, dibynnent ar sylfaen ariannol gyson, sylfaen a ffurfiwyd ar draul tanysgrifiadau eu haelodau. Yn ystod y pandemig trodd y chwarelwyr at eu cymdeithasau am gymorth. Gyda degau ar ddegau bellach yn dibynnu’n llwyr ar gefnogaeth ariannol eu cymdeithasau dechreuodd cronfeydd sawl cymdeithas ddioddef. Mae cofnodion Report of Chief Registrar of Friendly Societies on Friendly Societies, with Summary of Annual Reports yn dangos bod nifer sylweddol o gymdeithasau cyfeillgar pentrefi’r chwareli wedi profi colledion dirfawr yn ystod 1891.
Y flwyddyn honno, roedd Cymdeithas Glannau Gwyrfai, Waunfawr (213 o aelodau) wedi derbyn gwerth £3,815 mewn taliadau, ond roeddent wedi talu gwerth £6,802 mewn budd-daliadau sy’n golygu bod y gymdeithas wedi gwneud colled o £2,328 ar gyfer y flwyddyn honno, ffigwr sy’n gyfystyr â £188,000 yn arian heddiw! Mewn ymgais i adfer y sefyllfa yn Nyffryn Ogwen cynigiodd yr Arglwydd Penrhyn gyfrannu rhodd o £100 i Glwb Budd-daliadau’r Penrhyn… ar yr amod bod y gweithwyr yn cyfrannu dwy geiniog y mis am naw mis!
Tarwyd Dyffryn Peris gan bwl drwg ym mis Mai 1891. Ar 1 Mai adroddwyd ym mhapur newydd y Carnarvon and Denbigh Herald bod dros 280 o achosion yn Llanberis yn unig, ‘chiefly workmen employed at Mr. Assheton Smith’s slate quarries.’ Ymhen wythnos adroddwyd ym mhapur Baner ac Amserau Cymru bod dros 400 o gleifion yn Llanddeiniolen, cwynodd y gohebydd bod ‘teuluoedd cyfain ar lawr oddi wrth ei effeithiau.’ Yn Llanrug roedd dau aelod o’r un teulu wedi marw. Yn ôl bob sôn roedd un ‘hen wreigan yn Llanberis’ wedi penderfynu o achos ei rym bod ‘influential’ yn air llawer gwell ar y clefyd na ‘influenza’!
Erbyn canol Mai roedd gohebydd Baner ac Amserau Cymru ar ddeall ‘fod oddeutu pum cant o chwarelwyr Llanberis yn glaf o dan yr anwydwst.’ Methodd sawl cynrychiolwr o ‘D[d]inorwig a Llanberis’ fynychu Cynhadledd Flynyddol Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn yr ‘Assembly Rooms, Blaenau Ffestiniog’ oherwydd ‘eu bod yn dyoddef o dan yr anwydwst.’
Yn ystod y salwch fe welodd meddygon Ysbyty Chwarel Dinorwig dros gant o gleifion bob dydd ac fe ysgrifennodd un chwarelwr yn unswydd at olygydd Baner ac Amserau Cymru er mwyn canmol y gofal arbennig a ddarparwyd yno. Nododd bod meddygon yr ysbyty wedi gorfod trin â ‘[ch]ynnulliad enfawr o gleifion bob dydd… pa fodd bynag, caiff pob achos unigol sylw astud, gonest a chyflym.
I’r rheiny nad oedd yn ddigon ffodus i dderbyn triniaeth mewn ysbyty mi fyddai perthnasau yn darparu gofal gartref. Roedd colofnnau hunan-gymorth ym mhapurau newydd y cyfnod yn cynnig cyngor syml ac ymarferol.
Roedd hi’n bwysig bod claf yn cael digon o orffwys a chynhesrwydd. Pan yn amau bod perthynas yn dioddef, dylid ei anfon i’w wely ar unwaith. Cyn caniatáu i’r claf orwedd yn y gwely roedd hi’n hanfodol ei gynhesu’n drylwyr. Roedd modd gwneud hyn trwy osod ‘priddfaen (brick), ferwedig neu ddwy, wedi eu hamgylchynu â gwlanen.’ Roedd bwyd maethlon hefyd yn ffactor pwysig, dylai’r claf fwyta ‘tê bîff, graul blawd ceirch, bara a llefrith.’
Trwy gydol y pandemig cwynai meddygon bod llawer o bobl yn mynnu hunan-feddyginiaethu. Rhybuddiwyd y dylai:
‘dioddefydd fyned i’r gwely ar unwaith, ac yn hytrach nag ymddiried yn y lluaws cyffuriau a enwir gan hwn a llall, dylai eu dewis gael ei ymddiried i feddyg profiadol.’
Roedd ‘anfon yn uniongyrchol am feddyg’ yn ‘[d]dull llawer doethach nag i’r clad geisio meddyginaethu ei hun.’
Ochr-yn-ochr ag adroddiadau o’r fath roedd degau o hysbysebion ar gyfer y meddyginaethau ‘cure-all’ diweddaraf. Un meddyginiaeth poblogaidd oedd y Carbolic Smoke Ball. Roedd y Smoke Ball yn belen fach rwber wedi’w llenwi gydag asid carbolig neu ffenol, ac yn gysylltiedig iddi roedd dau diwb rwber, roedd y claf fod i osod y tiwbiau yn ei ffroenau a gwasgu’r belen er mwyn rhyddhau nwyon niweidiol a fyddai’r achosi’r trwyn redeg a felly’n cael ‘gwared’ o’r feirws.
Gwelwyd cynnydd yng ngwerthiant cwinîn hefyd. Roedd effeithiolrwydd cwinîn i drin symptomau influenza yn hollti barn meddygon. Er bod cwinîn wedi bod yn effeithiol i drin gwres milwyr trefedigaethol a oedd yn dioddef o falaria, gallai hefyd achosi crampiau stumog difrifol. Yng Nghymru roedd ‘Gwilym Evans Quinine Bitters’ o Llanelli yn hynod boblogaidd. Yn nhrymder y salwch, tybed faint o wragedd chwarelwyr yn ardal Llanberis fu’n ymweld â Richard Hughes, ‘druggist’ yn ei gartref yn Nol Peris er mwyn prynu Carbolic Smoke Ball neu gwinîn rhyfeddol Gwilym Evans?
Bwriad y blog yma oedd cynnig cip-olwg ar effaith y Russian Flu ar gymunedau chwarelyddol 130 mlynedd yn ôl ond wrth ddarllen adroddiadau niferus y wasg Gymreig mae’n amhosib osgoi’r ffaith fod cymaint o’i gynnwys yn wir heddiw.