Gohirio Ewros 2020 – Newyddion da i Gymru?

Mared Rhys sy’n edrych yn ôl, ac ymlaen, at y gystadleuaeth bêl-droed 

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Mae effaith salwch Covid-19 yn creu ansicrwydd ar draws y byd pêl-droed a thu hwnt ledled y byd ar hyn o bryd, a pharhau bydd yr ansicrwydd hwnnw am ychydig fisoedd o leiaf yn anffodus.

Un digwyddiad yn y byd pêl-droed sydd wedi cael ei effeithio yw cystadleuaeth Ewro 2020. Roedd y gystadleuaeth hon i fod i ddigwydd rhwng Mehefin a Gorffennaf 2020. Yn dilyn trafodaethau ym mis Mawrth rhwng UEFA a’r 55 cymdeithas pêl-droed fe ddaeth y cyhoeddiad fod y gystadleuaeth wedi ei ohirio nes 2021. Yn sicr, roedd y newyddion hyn yn ddisgwyliedig ac yn un synhwyrol dan yr amgylchiadau… ond nid yw hynny yn celu’r ffaith fod cefnogwyr wedi cael eu siomi.

Nid yw gohirio’r gystadleuaeth yn newyddion drwg i gyd, fodd bynnag.

Gwella o anafiadau

Mae’n bosib dweud fod nifer o gefnogwyr Cymru yn croesawu’r syniad o ohirio i ryw raddau gan y bydd yn rhoi cyfle i Joe Allen wella ar ôl ei anaf! Mi fyddai Allen yn bendant wedi colli ar y cyfle i fod yn rhan o garfan Ryan Giggs eleni ond yn ffodus i Gymru ag Allen mae’r flwyddyn ychwanegol yn rhoi digon o amser iddo wella. Yn sicr mae Joe Allen yn ffigwr allweddol yng nghanol y cae ac mae wedi profi ei hun yn hanfodol bwysig yn y garfan, ac yn dangos hyn pan y cafodd ei enwi yn nhîm y twrnament yn Ewro 2016. 

Mae David Brooks a James Chester hefyd wedi bod i ffwrdd efo anafiadau am rai misoedd ac newydd ddechrau ail chwarae. mae’n fanteisiol i Gymru, felly, fod gan y ddau dymor arall i ailddarganfod eu safon. 

Talent ifanc

Braf oedd gweld y chwaraewyr ifanc yn cael cyfle yn ystod yr ymgyrch, gyda Giggs yn rhoi ymddangosiad cyntaf i rai fel Daniel James, Rabbi Matondo a James Lawrence. Mae Cymru yn wynebu cyfnod cyffrous gyda nifer o wynebau newydd ag ifanc yn rhan o’u carfan a enwau fel Ethan Ampadu, Joe Rodon a Ben Cabango yn creu ‘buzz’ ymysg cefnogwyr. Yn bwysig fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng chwaraewyr cyffrous a chwaraewyr gwych. 

Mae pawb yn gallu gweld fod chwarewyr cyffrous efo potensial i fynd yn bell ond efallai nad yw eu ‘end product’ yn lle gallai fod. Bydd 12 mis arall o bêl-droed tîm cyntaf rheolaidd yn helpu’r rhai ifanc i ddatblygu i fod yn bêl-droedwyr gwych. 

Pêl-droed rheolaidd

Gobeithio bydd y cyfnod yma yn rhoi mwy o gyfleoedd i rai o’r chwaraewyr chwarae yn amlach i’w timau neu i newid clybiau er mwyn sicrhau pêl-droed rheolaidd.

Yn ystod y tymor hyd yma nid yw Wayne Hennessey nag Ethan Ampadu, i enwi dim ond dau, wedi ymddangos yn rheolaidd i’w clybiau felly mae hynny yn rhoi ychydig o bryder am ddiffyg amser ar y cae.

Anodd hefyd yw gwadu fod y tymor hwn wedi bod yn rwystredig i Gareth Bale yn Real Madrid. Mae wedi cael ei daro gan anafiadau bychain a nid yw’n gyfrinach nad yw pethau yn dda rhyngddo ef a’i reolwr Zinedine Zidane ac felly nid yw wedi cael serennu gymaint ag y byddai wedi ei hoffi. Gobeithio felly pan fydd y tymor pêl-droed yn ailgydio bydd Bale yn cael cyfle i symud i glwb newydd ble caiff chwarae yn rheolaidd ar y lefel uchaf. Bydd Gareth Bale ffit a thanllyd yn dychryn unrhyw amddiffyn yn yr Ewros yn bendant! 

Mae’n braf cael dweud fod gan Ryan Giggs dasg anodd i gwtogi y garfan i 23 dyn ac yn sicr ni fyddwn i yn hoff o orfod gwneud y penderfyniad hwnnw!

Dyfodol y chwaraewyr profiadol

Rydym wedi gweld mai y ffordd ymlaen o dan reolaeth Giggs yw rhoi cyfle i’r tô ifanc. Cwestiynu mae rhywun wedyn am le chwaraewyr hÿn y garfan megis Ashley Williams, Neil Taylor a Chris Gunter. Yn bendant mae’n braf cael cymaint o egni ifanc yn y garfan ond mae’n bwysig cael rhywun sydd â phrofiad fyddai yn gallu dysgu a chynorthwyo’r genhedlaeth nesaf.

Mi fydd y cyfnod yma yn rhoi amser i Ryan Giggs arbrofi gyda’r garfan a gwahanol strwythurau ac, yn fwy na dim, mi fydd ganddo fwy o amser i wneud y penderfyniad hollbwysig o ddewis carfan terfynol. 

Er ei fod yn edrych ar yr arwyneb yn dda i Gymru fod yr Ewros wedi eu gohirio am flwyddyn, mae posib y bydd mwy o anafiadau erbyn hynny! Mae’n debyg y bydd Joe Allen yn nôl ond efallai y bydd rhywun arall allweddol wedi cael anaf. Mae’r un peth yn wir am Yr Eidal, Twrci a’r Swisdir ac mae’n bosib bydd eu chwarewyr nhw hefyd yn cael anafiadau yn ystod y 12 mis ychwanegol. 

Anodd felly yw hi i ragweld pa fath o sefyllfa fydd yn wynebu Cymru a Ryan Giggs yn Ewro 2020 (2021) ond mae un peth yn bendant, mi fydd hi’n haf i’w gofio dwi’n siwr!