Cystadleuaeth Creu Cymeriad Cudd i Eco’r Wyddfa

Ble mae Boc? neu Where’s Wally? – dyma eich cyfle i greu cymeriad tebyg ar gyfer Eco’r Wyddfa

Rydych chi wedi clywed mae’n siwr am Ble mae Boc? neu Where’s Wally? – dyma eich cyfle i greu cymeriad tebyg ar gyfer Eco’r Wyddfa i chwilio amdano rhwng y straeon pan fydd y papur yn dychwelyd i brint.

Beth am roi cynnig ar greu y cymeriad i ni? Hwyrach y bydd chwedloniaeth neu hanes yr ardal yn eich ysbrydoli, efallai y bydd byd natur yn sbardun… Neu beth am greu anghenfil fflwfflyd doniol?

Rydan ni’n chwilio am gymeriad sy’n codi gwên y bydd darllenwyr Eco’r Wyddfa yn edrych ymlaen at chwilio amdano rhwng y tudalennau o fis i fis.

Rhowch gynnig arni! Y cyfan rydan ni ei angen ydi:

1. Llun o’r cymeriad

2. Enw’r cymeriad

3. Ffaith ddiddorol neu ddoniol am y cymeriad

4. Enw a manylion cyswllt yr artist

Anfonwch eich cynigion at: ecorwyddfa@gmail.com NEU postiwch nhw ar ein tudalen Facebook i greu oriel hapus.

Agored i Bawb o Fro’r Eco, yn blant neu oedolion – ewch ati!

Gwobr: Clod, bri ac enwogrwydd drwy’r fro

Dyddiad cau: 8 Mai, 2020

Beirniad: Gwyndaf Rowlands ac Elan Rhys

Fe fydd Gwyndaf yn datblygu’r cymeriad sy’n ennill i fod yn ddelwedd ddigidol addas i’w gynnwys yn y papur.

Hefyd, mae criw newydd o olygyddion wrth y llyw yn Eco’r Wyddfa, fe fyddem ni wrth ein boddau yn clywed gennych chi gyda syniadau am erthygl neu eitem.