Cofio Merched y Broydd Llechi: Gofal Iechyd ar yr Aelwyd Chwarelyddol

Gofalu am gleifion ar aelwydydd chwarelyddol.

Elin Nant
gan Elin Nant

‘Little is known about the quarryman’s wife and daughter,’ meddai’r Athro R. Merfyn Jones ac yn wir, nid tasg hawdd yw cofio merched a gwragedd y bröydd llechi. Mae astudio darpariaeth iechyd ardaloedd y chwareli yn ein galluogi i roi sylw haeddianol i’r merched…

 

Gofalwyr: Cofio Merched y Bröydd Llechi

Yn ôl R. Merfyn Jones, ‘there is much evidence which is hostile to the women of the quarrying communities and which judges them harshly.’ O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, pardduwyd enw merched y bröydd llechi mewn print ac ar lafar. Mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1869 lleisiwyd pryder ynglŷn â’r math o wraig y dewisai’r chwarelwr briodi. Honnodd yr awdur bod nifer o chwarelwyr wedi cael eu dallu gan ‘yr olwg ysblenydd a gafodd ar un o’r cyfryw ferched’, grwgnachodd ‘[nad] peth anghyffredin yw clywed am chwarelwr yn dyweyd mai yn y ffair… y cyfarfyddodd ef a’i briod’, ebychodd ‘fod y ffair yn lle da i ymofyn buwch neu geffyl; ond nid yw, ac ni feddyliwyd erioed iddi fod, yn lle da i ymofyn gwraig.’ Pryderodd bod ‘amryw ohonynt… yn addoli tlysineb a rhosres benywaidd, yn y cyfrwng hwn, wedi gorfod treulio gweddill eu hoes i “yfed llwch y llo.”’ Ac nid yw’r erthygl uchod yn eithriad; erbyn troad yr bedwaredd ganrif ar bymtheg mae tystiolaeth yn awgrymu bod naratif gymharol negyddol wedi datblygu ynghylch merched a gwragedd pentrefi’r chwareli.

Ym 1894 cynhaliwyd A Report on Open Quarries, ymholiad llywodraethol wedi ei chanoli ar natur y diwydiant llechi a’i effaith ar fywydau trigolion y pentrefi cyfagos. Casglwyd tystiolaeth gan ddoctoriaid lleol gan gynnwys doctoriaid yr Ysbytai Chwarel. Yn yr adroddiadau swyddogol, hallt iawn yw’r feirniadaeth o ferched y bröydd llechi. Dadrithwyd merched Ffestiniog gan sylwadau Winnifred Ellis, chwaer i neb llai na Tom Ellis, A.S. Rhyddfrydol Sir Feirionnydd. Honnodd Ellis, ‘fod gwragedd y chwarelwyr yn rhai gwael am gwcio, eu bod yn rhai gwastraffus, eu bod yn chwedleugar, ac yn hoff o ddilladd gwychion.’

Mae llwyth o dystiolaeth ym mhapurau newydd y cyfnod yn gwadu cyhuddiadau’r awdurdodau. Un enghraifft o blith nifer yw’r llythyr a anfonwyd at olygydd Y Werin gan gynrychiolwyr chwarelwyr Ffestiniog yn mynegi eu ‘anghymeradwyaeth llwyraf’ i sylwadau Ellis ac yn mynnu ymddiheuriad ‘er mwyn anrhydedd ac enw da… [eu] gwragedd.’

Nid Winnifred Ellis oedd yr unig un i farnu gwragedd y gymuned chwarelyddol. Yn ystod A Report on Open Quarries, galwyd ar Dr. Robert Herbert Mills Roberts, Ysbyty Chwarel Dinorwig i gyflwyno tystiolaeth. Ym marn Dr. Mills,

‘The Dinorwic quarryman often marries at too early an age… He marries a girl who is possibly younger than himself and even more inexperienced. She knows nothing of cooking…and if she is anxious to learn, she will do so at the expense of her husband’s digestion. But as a rule she is not ambitious in this direction, and is quite content to go on the old lines, tea and bread and butter. The husbands think it is all right, so they do not trouble any more about it…The men employed at the Dinorwic quarries ought to be, and with proper feeding… would be, one of the finest races in the world.’

Yr hyn sydd yn ddiddorol yng nghasgliadau Dr. Mills, yw’r ffaith ei fod wedi awgrymu bod rhyw fath o gysylltiad rhwng safonau iechyd diffygiol Chwarelwyr Dinorwig â’r gofal a dderbynient gan eu gwragedd, yn arbennig y prydau bwyd a baratowyd ar eu cyfer. Meddai,

‘In ordinary health this is very bad, but it becomes very serious in case of illness, for as a rule the women have not the faintest idea how to make attempt at an invalid dish.’

Yn ei dystiolaeth mae Dr. Mills yn cwestiynu gallu gwragedd y chwarelwyr i ofalu am berthnasau methedig. Drwy ei sylwadau beirniadol, mae’n llwyddo i danseilio rôl y ferch a’r wraig fel gofalwyr a darparwyr iechyd. Honnodd eu bod nid yn unig yn darparu gofal diffygiol ond eu bod hefyd yn gyfrifol am y safonau iechyd cyffredinol wael. Pan ofynnwyd i Dr. Mills ‘[if] it is [his] opinion that more evils arise from the conditions of their life than from the condition of their employment’, cytunodd Mills gan ateb, ‘Yes, absolutely.’

Pwynt sydd efallai yn anos i’w drafod yw dilysrwydd yr honiadau. I mi, mae sylwadau Dr. Mills yn adlewyrchiad o’r diffyg dealltwriaeth a fodolai o fewn y gyfundrefn feddygol o effeithiau tlodi; onid oedd hi’n ddigon hawdd i ŵr dosbarth canol – ar gyflog blynyddol o £550 (ffigwr sy’n gyfystyr â £78,000 heddiw) – farnu merched dosbarth gweithiol, tlawd?

Mae R. Merfyn Jones wedi disgrifio merched y bröydd llechi fel ‘the creations of women who were denied employment.’ Roedd mwyafrif llethol o wragedd chwarelyddol yn llwyr ddibynnol ar gyflogau eu gŵyr, golyga hyn bod cynnwys y bwrdd bwyd yn dibynnu ar drosglwyddiad arian didwyll rhwng gŵr a gwraig. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad oedd y chwarelwr bob amser yn onest gan guddio ychydig o’i gyflog oddi wrth ei wraig. Y term tafodieithol am hyn yw ‘celc’; ‘arian poced a gedwir o’r neilltu ar y slei gan rai chwarelwyr ar ddiwedd mis… yr unig ffordd i gael y gwir [oedd] trwy holi un o’r gwragedd eraill a chymharu’r cyflogau.’ A yw’r term ‘celc’ yn adlewyrchiad o gaethiwed economaidd merched dosbarth gweithiol neu’n cadarnhau’r syniad eu bod yn wastraffus a bod angen cuddio ychydig o’r arian oddi wrthynt? Mae’n debyg bod elfennau o wirionedd yng nghuddiadau’r awdurdodau, ond, maent yn euog o gyffredinoli holl ferched y gymuned chwarelyddol, ac fel y dywedodd un sylwebydd dychanol, ‘o osod y lliwiau yn rhy ddu o gryn lawer!’

Yn sgil anffurfioldeb y gofal nid tasg hawdd yw cloriannu darpariaeth iechyd a lles yr uned deuluol. Yn draddodiadol, mae haneswyr wedi tueddu i gymryd y gofal a ddarparwyd gan aelodau o deulu’r claf yn ganiataol. Mae erthyglau papur newydd yn cynnig ychydig dystiolaeth brin o’r gofal a ddarparwyd gan deuluoedd cleifion. Mae negeseuon o wellhad buan yn aml yn nodi bod y claf yn derbyn triniaeth gartref, megis ‘Mr. W. Jones, Glandwr, Pentref Castell’ wedi ‘codwm sydyn’ yn ei ardd, ‘cariwyd ef i’w wely’, dymunai’r hysbyseb ‘ei weled ef cyn hir yn holliach heb olion y codwm trwm tramawr arno.’ Mewn hysbysebion tebyg, mae’r negeseuon yn awgrymu bod y claf yn derbyn gofal gan berthnasau agos ar yr aelwyd megis ‘Thomas O. Owens, Glan yr Afon-terrace, Nant Peris… wedi [iddo] dderbyn niwed yn y chwarel,’ nodwyd bod  Thomas eisoes wedi bod gartref ers dros fis yn gwella. Gyda’r cartref yn rhan greiddiol o fyd y claf pwynt y dylid ei ystyried yw safon cartrefi’r chwarelyddol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu nad oedd aelwydydd chwarelyddol yn llefydd delfrydol ar gyfer claf. Mewn llythyr a anfonwyd gan Robert H. Parry, arolygwr ar ran Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai roedd safon tai Glan yr Afon Nantperis – rhes o dai ym meddiant Ystâd y Faenol – yn ddiffygiol. Nododd yr arolygwr bod nifer o ‘sanitary defects’ yn bodoli mewn o leiaf saith tŷ. Cwynodd Parry yn bennaf am natur tamp y tai a’r ffaith bod y mwyafrif ohonynt yn gollwng dŵr gan achosi nenfydau adfeiliedig.  Yn nhŷ Thomas Owens (yr uchod) cwynodd Parry fod dŵr yn gollwng yng nghefn y tŷ gan achosi’r nenfwd gronni. Mewn llythyr a anfonwyd gan asiant y Faenol i gwmni cyfreithwyr Allanson & Co., Caernarfon, disgrifiwyd y diffygion uchod fel ‘trivial repairs… [which] the Gwyrfai District Council… [are] constantly harassing us with’ – ‘mân-atgyweiriadau’, tybed? Mae tai Glan yr Afon, Nantperis yn enghraifft berffaith o dai chwarelyddol cyffredin ac yn cynnig bras olwg o’r amgylchedd anaddas a oedd yn wynebu cleifion a’u gofalwyr.

Nid tasg hawdd fyddai adfer iechyd unigolyn o dan yr amodau a ddisgrifiwyd yn llythyr Robert H. Parry, yn arbennig y cleifion hynny a fu’n dioddef gartref am gyfnodau hir – wythnosau os nad misoedd. Byddai salwch hir-dymor yn atal y gŵr rhag ennill cyflog i gynnal ei deulu, a hynny’n golygu bod merched yn aml yn gofalu am eu gwŷr yn ystod cyfnodau o galedi economaidd. Wrth ofalu am dylwyth ni fyddai gorchwylion domestig y ferch yn peidio, byddai disgwyl iddi gadw’r tŷ a choginio yn ogystal â gofalu am ei phlant oll wrth ofalu am berthynas methedig hefyd. Yn ôl Cyfrifiad 1881 roedd 3,033 o bobl yn byw o fewn 275 tŷ ym mhlwyf Llanberis, ar gyfartaledd roedd o leiaf 10 person yn byw ym mhob tŷ, ffigwr sy’n awgrymu problem gorboblogi sylweddol. Yn y cyfnod dan sylw, nid anghyffredin oedd rhannu bythynnod neu dai teras yn ddau er mwyn cartrefu dau deulu, byddai amodau byw o’r fath yn arwain at ddiffyg preifatrwydd yn ystod cyfnod o wendid yn ogystal â chynyddu’r risg o drosglwyddo haint.

Os nad oedd perthnasau agosaf y claf yn byw yn yr un tŷ mae tystiolaeth yn awgrymu bod cleifion wedi teithio cryn bellter i dderbyn gofal, megis ‘Mr. Griffith Jones, Cae Esgob, Llanberis’ a fudodd i Lundain i fyw gyda’i ferch ‘Mrs. Davies’, yno, cafodd ‘bob gofal, tiriondeb, ac ymgeledd y gallodd cariad ymlyngar a hunan-abertho merch ei wneyd i dad.’ Mae erthyglau eraill yn datgelu bod cleifion wedi dychwelyd i’w cartrefi genedigiol er mwyn derbyn gofal, megis, ‘priod Mr Thomas Jones, Ystablau, Penisa’rwaen.’ Mae’r adroddiad yn nodi ei bod wedi dychwelyd ‘ar ddechreu ei salwch… i Bodhyfryd, Nant Peris, sef anedd-dy ei mham, Mrs Evans, er mwyn iddi fod dan ei gofal a’i sylw parhaus.’ Yn dilyn cyfnod o salwch dygwyd Maggie J. Williams, gwraig Mr. G. Williams, postman Caernarfon i’r Ty Newydd, Nantperis, anedd-dy ei rhieni. Disgwylia… y bydd iddi, o dan ofal ei mam a’i chwaer ac awelon iach Eryri, wellhau yn drwyadl.’ Mae’r negeseuon uchod yn awgrymu bod holl ferched y teulu wedi bod ynghlwm â’r gofal a ddarparwyd ar gyfer claf, boed yn famau, chwiorydd neu ferched.