Caffi ar droed y Wyddfa yn “gwrthod gadael neb i mewn”

Steffan Roberts wedi cael digon o bobol yn “amharchu’r Wyddfa”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae un o berchnogion caffi ar droed y Wyddfa, Penceunant Isaf, sy’n gweini byrbrydau, diod a chwrw wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “gwrthod gadael neb i mewn.

Daw hyn ar ôl i gaffis a thafarndai gael yr hawl i adael cwsmeriaid tu mewn dydd Llun (Awst 3).

“Dim ond gweini pobol tu allan ydw i, tydi pobol ddim yn sylweddoli pa mor beryglus ydi hi,” meddai Steffan Roberts.

“Dw i’n gwrthod gadael neb i mewn, mae gennyf aelodau staff a theulu i feddwl amdanynt.

“Ond dyw rhai pobol ddim ond yn poeni am arian.”

Mae Steffan Roberts hefyd yn dweud ei fod wedi cael digon o bobol yn “amharchu’r Wyddfa a thaflu sbwriel ymhob man”.

“Does yna neb yn poeni, mae pobol yn dod yma rŵan oherwydd eu bod nhw methu mynd ar wyliau i Sbaen ac yn amharchu’r lle, mae o’n fy ngwylltio i.”