Antur ar restr fer gwobr genedlaethol

Gwobrau CIPD Cymru 2023

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr
Untitled-design-18-copy

Yn ôl y rhwydwaith, Gwobrau CIPD Cymru yw’r gwobrau mwyaf uchel eu parch ym maes Adnoddau Dynol yng Nghymru.

Mae’r gwobrau yn cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth yn y maes, ac eleni mae Antur Waunfawr ar y rhestr fer. Rydym ymhlith tri chwmni sydd ar restr fer ar gyfer Gwobr y Fenter Llesiant Orau (gyda llai na 250 o weithwyr)

Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud ar Ddydd Gwener 3 Mawrth 2023.

Croeswch eich bysedd!