Antur yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Mae merched mewn swyddi allweddol ar draws strwythur staffio’r cwmni

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched (Mawrth 8) yn ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched, ac mae menter gymdeithasol o Wynedd wedi ymuno yn y dathlu

 

Wedi’i sefydlu ym 1984, mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol flaengar sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a llesiant i oedolion ag anableddau dysgu.

 

A heddiw mae Antur Waunfawr yn dathlu ymrwymiad y cwmni i gydraddoldeb er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched drwy rannu straeon rhai o ferched y fenter gymdeithasol.

 

Ym mis Gorffennaf 2022 rhoddodd Menna Jones y gorau i’w swydd fel Prif Weithredwr Antur Waunfawr, a chamodd Ellen Thirsk i’r adwy.

 

Mae Ellen yn hanu o Lanuwchllyn yng Ngwynedd ac mae ganddi gefndir helaeth ym maes iechyd ac adnoddau dynol. Ar ôl mynychu Ysgol y Berwyn yn y Bala, aeth Ellen yn ei blaen i astudio yng Ngholeg Llandrillo, gan ddechrau ar ei gyrfa yn y sector iechyd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio fel ysgrifennydd meddygol, a chafodd ei derbyn i’r Cynllun Hyfforddiant Rheoli Busnes.

 

Ar ôl treulio cryn dipyn o amser yn gweithio ym maes iechyd, symudodd i weithio ym maes Adnoddau Dynol gyda Thai Eryri.

 

Ers iddi symud i ardal Caernarfon roedd Ellen wedi clywed am waith Antur Waunfawr ac wedi dyheu ers tro i weithio i’r fenter gymdeithasol. Roedd hi’n edmygu’r egwyddorion sydd wrth galon eu gwaith.

 

“Empathi, caredigrwydd, cynaladwyedd, a chydraddoldeb. Roedd yn amlwg i mi fel rhywun o’r tu allan ar y pryd fod gan Antur Waunfawr werth cymdeithasol aruthrol, a roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar gyfrannu at eu gweledigaeth.”

 

Yn 2007 ymunodd Ellen ag Antur Waunfawr fel Rheolwr Adnoddau Dynol. Mae’n cydnabod bod amgylchiadau personol yn rhan o’i huchelgais i weithio i’r fenter gymdeithasol. Ym 1997 rhoddodd chwaer Ellen, Rhian, enedigaeth i Carys, plentyn â syndrom Down.

 

“Mae profiadau personol felly’n agoriad llygad ac yn dylanwadu ar eich byd-olwg. Rydach chi’n sylweddoli bod cydraddoldeb yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Mae gan bobl wahanol anghenion, ac mae’n rhaid cyfarch yr anghenion hynny.”

  

Mae Siân Angharad Williams o Gaernarfon yn Is-Reolwr Iechyd a Llesiant yn Antur Waunfawr, ac wedi bod yn ymwneud â gwaith yr Antur ers yn blentyn:

 

“Roeddwn i’n arfer dod i’r Antur yn ferch fach efo Nain, oedd yn gwirfoddoli yma.

 

“Cefais leoliad profiad gwaith yma ym mlwyddyn 10, cyn dod i weithio fel Gweithwraig Gefnogol yn 21 oed. 

 

“Dw i wedi bod yn ffodus iawn o gael amryw o gyfleoedd gwaith yma; cefais secondiad i greu Cynlluniau Person Canolog, gweithio yn yr adran gyllid ac yn y Warws Werdd, prosiect ailgylchu dodrefn a dillad ar Stâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon.

 

“Yn 2011 cefais gyfle i ddod yn Uwch Weithiwraig Gefnogol yn gweithio ag unigolion gydag anableddau dwys. Ro’n i’n dal i weithio fel Gweithiwraig Gefnogol ond yn cymryd cyfrifoldebau ychwanegol fel creu rotas, trefnu gweithgareddau a llunio asesiadau risg. 

 

“Wrth i’r adran dyfu, cefais y cyfle i weithio fel Is-reolwraig Iechyd a Llesiant ar gyfer yr adran.

 

“Mae’n swydd brysur ond diddorol – mae pob diwrnod yn wahanol.

 

“Fy hoff ran o’r swydd yw cael ymuno â gweithgareddau neu dripiau– mae ’na gymaint o hwyl i gael.

 

“Ro’n i’n arfer dod i’r Antur efo Nain, ac mae amryw o ferched cryf yn ein teulu ni wedi dysgu gwerth gwaith i mi.

 

“Maent hefyd wedi dangos i mi fod modd magu plant a chynnal gyrfa lwyddiannus.”

 

Daeth Elin Roberts o Lanfairpwll i weithio i Antur Waunfawr yn 2020. Yn ôl Elin, mae’n hollbwysig i’w chenhedlaeth hi fod merched yn cael eu gweld mewn safleoedd uchel ym mhob gweithle:

 

“Cychwynnais yn Antur Waunfawr ym mis Rhagfyr 2020 fel gweithwraig gefnogol yn y gwasanaeth Aml Ofynion.

 

“Mae’n lle mor braf i weithio – mae pawb yn gweithio fel tîm i sicrhau bod yr unigolion yn cael yr amser gora posib. 

 

“Ro’n i’n ffodus iawn i gael dyrchafiad yn 2022 i fod yn Uwch Weithwraig yn y gwasanaeth Aml Ofynion. 

 

“Dwi’n gweithio hefo Siân Williams yn ddyddiol, a dw i wedi creu perthynas gwaith dda iawn hefo hi. Yn ogystal â’r swydd yma, dwi hefyd yn astudio ar gyfer gradd i fod yn Weithwraig Gymdeithasol.

 

“Mae’n bwysig i mi fod merched mewn swyddi uchel ym mhob gweithle.

 

“Fel dwi wedi sôn eisoes, mae gennyf berthynas dda hefo fy rheolwr llinell Sian, a dw i wedi edrych i fyny iddi hi ers imi gychwyn yn Antur. Mae hi wastad yn barod i helpu eraill a rhoi’r unigolion yn gyntaf.

 

“Mae’n braf cael gweithio hefo pob merch o fewn Antur Waunfawr, yn enwedig y merched ifanc sy’n weithwyr cefnogol ar y funud. Mae’n deimlad braf gwybod bod merched eraill eisiau’r gorau i’r holl unigolion a bod pawb yn gallu gweithio fel tîm.

 

“Yn hynny o beth mae fy mam yn arwres i mi. Mae ganddi amser i bawb ac mae wedi fy nghefnogi yn ystod y cyfnodau heriol yn fy mywyd.”

 

Mae Antur Waunfawr yn chwilio am Weithwyr Gofal a Chymorth ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.anturwaunfawr.org/en/jobs/gweithiwr-cefnogol-gofal-a-chefnogaeth-2/