Ymestyn dyddiad cau cystadleuaeth Antur Waunfawr

Cynnyrch lleol o ansawdd uchel!

Antur Waunfawr
gan Antur Waunfawr

Fel y mae pobol leol yn ei wyebod, ymysg y gwaith mae Antur Waunfawr yn ei wneud, rydym yn tyfu cynnyrch ar ein safle yn Weun.

 

A’r Nadolig hwn rydan ni’n rhoi hamper o’n cynnyrch i enillydd ein cystadleuaeth.

 

Dylai’r sawl sy’n dymuno cael cyfle i ennill hamper o gynnyrch blasus Antur Waunfawr fynd draw i dudalen Facebook y fenter, hoffi’r dudalen, rhannu’r post hwn a thagio ffrind yn y sylwadau.

 

Mae dyddiad cau’r gystadleuaeth wedi’i ymestyn i 21 Rhagfyr.

 

Yn ogystal â’r cynnyrch bwyd, mae Antur Waunfawr yn gwerthu torchau a chrefftau Nadolig eleni.