Targedu Aelod Cabinet Gwynedd yn annerbyniol

Cyfle i ddangos undod yn y Senedd heddiw

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Untitled-design-36

Fel yr Aelod o’r Senedd dros etholaeth Arfon, cefais gyfle heddiw i ddatgan fy nghefnogaeth i Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg yn dilyn ymgyrch wedi’i thargedu yn ei herbyn.

 

Ar lawr y Senedd, gofynais am ddiweddariad gan y Gweinidog Addysg ar gyflwyno’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru. Ddiwedd mis Awst, roedd rhaid galw’r heddlu wedi i grŵp o broteswyr yn erbyn y Cod darfu ar gyfarfod o Gyngor Gwynedd.

 

Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogol i’r newidiadau hyn, ac rydan ni’n ymwybodol fod newyddion ffug yn cael ei ledaenu, a bod protestiadau ar sail camwybodaeth wedi cael eu cynnal, yn cynnwys yng Nghaernarfon.

 

Cefias gyfle heddiw i gyfeirio’n benodol at Beca Brown, y Cynghorydd Sir dros ward Llanrug ac Aelod Cabinet Addysg Gwynedd. Yn rhinwedd ei swydd, mae Beca wedi cael ei thargedu mewn modd annerbyniol.

 

Gofynais heddiw i Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru egluro beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i atal lledaenu newyddion ffug sydd yn arwain at ymddygiad amhriodol gan rai o fewn cymdeithas.