Tydi’n anodd ofnadwy gwybod be i wneud am y gorau yn wyneb yr argyfwng cynhesu byd eang. Tydym ni oll yn ceisio helpu gora’ medrwn drwy arbed ynni, ail-gylchu a ballu, ond yn gwybod yn iawn fod angen i bob un ohonom wneud mwy, llawer mwy, i newid y sefyllfa sydd ohoni a’r dyfodol hunllefus all fod o’n blaenau.
Nod a phwrpas mudiad GwyrddNi yw hybu, hwyluso a chyd-lynu gweithredu cymunedol i drio gwella’r sefyllfa, a cynhaliwyd y sesiwn cyntaf i gynulliad o tua hanner cant o drigolion ardal Dyffryn Peris yn y ganolfan yn Llanberis ar nos Fawrth a bore Mercher, Mai 17eg a Mai 18ed.
Dros ddau gyfnod o dair awr clywsom dri siaradwr gwadd, a cawsom bynciau perthnasol i’w trafod mewn grwpiau o 4 neu 5 ynghyd ac un hwylusydd i’n cynorthwyo. Braf iawn oedd bod y trefnwyr wedi taro’r nod o ddewis siaradwyr diddorol ac amrywiol ac wedi amseru’r trafodaethau difyr i orffen yn eu blas cyn symud ’mlaen i’r gweithgaredd nesaf. Roedd hefyd werthfawrogiad mawr i’r cawl gyda’r nos a’r baned a theisen yn sesiwn y bore.
Ceri Cunnington oedd y siaradwr cyntaf, efo’i draed ar y ddaear a’i frwdfrydedd heintus, a’i gred mewn gweithredu’n gymunedol a’i brofiad o lwyddiant yn gwneud hynny. Y naturiaethwr Duncan Brown oedd yr ail siaradwr gwadd, yn tanlinellu’r newidiadau fu ym myd natur ers iddo ddechrau ymddiddori pan yn fachgen ysgol yn y Waunfawr ‘erstalwm’. Tybed be fydd y newidiadau i’w gweld yn oes ein plant a phlant ein plant?
Nia Haf Jones, Swyddog Ymwybyddiaeth Forol yr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, oedd y trydydd i’n hanerch a bu’n amlinellu’r gwaith pwysig mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud yn lleol, a’r ymatebion positif a geir gan disgyblion ysgol a phobl ifanc i’r gweithgareddau a drefnir.
Amcan y sesiwn gyntaf yma oedd rhoi cyfle i ni drigoliol y dyffryn wario amser yn trafod beth sydd yma i’w werthfawrogi yn ein ardal, ac i restru’r holl gyfoeth naturiol sydd angen ei warchod. Y gobaith yw y bydd y sesiynnau nesaf yn ein helpu i benderfynu beth yw’r ffordd ymlaen, ac i fabwysiadu rhaglen o weithredu cymunedol fydd yn gwneud gwahaniaeth er lles pawb a phopeth.
Hefin Jones o Lanrug
Un o aelodau Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Peris
I wylio rhai o sgyrsiau siaradwyr gwadd GwyrddNi ewch draw i dudalen YouTube GwyrddNi, neu gallwch ddysgu mwy am GwyrddNi a’r Cynulliadau.