Mynd i’r afael â’r argyfwng tai ym Mro’r Wyddfa

Bydd prosiect sydd am greu datrysiadau tai dan arweiniad y gymuned yn cael ei lansio ar 14 Ionawr

Walis George
gan Walis George

Mae’r argyfwng tai yn achosi difrod gwirioneddol i unigolion, teuluoedd, yr economi leol ac yn bygwth cynaliadwyedd ein cymunedau Cymraeg.
Ar hyn o bryd mae mwy na 1,000 o geisiadau ar Gofrestr Tai Gwynedd am gartrefi i’w rhentu yng nghymoedd Peris a Gwyrfai. Ar yr un pryd mae mwy na 360 o eiddo domestig yr ardal yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr ac mae tua 90 arall wedi bod yn wag am fwy na 6 mis
Dangosodd ymchwil gan Gyngor Gwynedd fod 65.5% o boblogaeth y sir ar gyfartaledd wedi eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r ganran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o ail gartrefi.
Nid yw’n syndod felly mai “Cynlluniau i sicrhau tai sy’n addas i anghenion pobl lleol” a nodwyd fel y prif flaenoriaeth mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Adfywio Lleol Ardal Bro Peris yn 2023.
Tra bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol newydd ar draws Cymru yn ystod ei thymor presennol, ac er gwaethaf ymdrechion clodwiw Cyngor Gwynedd a chymdeithasau tai i wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael, mae angen gwneud mwy.
Dyna pam mae Partneriaeth Dyffryn Peris am sefydlu prosiect tai dan arweiniad y gymuned. Ffurfiwyd y Bartneriaeth gan fentrau cymunedol lleol yn 2024 gyda’r bwriad o gydlynu, hybu ac ysgogi gweithredu cymunedol i greu newid cadarnhaol.
Yn ddiweddar, sicrhawyd grant Perthyn a fydd yn galluogi’r Bartneriaeth i:
• casglu tystiolaeth o anghenion tai lleol presennol;
• mapio cyfleoedd i drosglwyddo asedau cyhoeddus;
• dysgu am wahanol fodelau o fentrau tai ym mherchnogaeth gymunedol; a
• sefydlu perthynas â phartneriaid cyflawni ac arianwyr posibl
Estynnir croeso cynnes i bawb sydd am fynd i’r afael a’r argyfwng tai ym Mro’r Wyddfa i noson lansio’r prosiect ar nos Fawrth 14 Ionawr 2025 am 6:00 o‘r gloch yng Nghaffi’r Bedol, Bethel.
Bydd Kath Robinson o Cwmpas, arbenigwraig ar dai dan arweiniad y gymuned, yn bresennol yn y cyfarfod i rannu gwybodaeth am brosiectau llwyddiannus mewn rhannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.
Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru i fynychu, cysylltwch gyda peris@gwyrddni.cymru neu ffoniwch 07850 352478

Ymunwch â’r sgwrs

John Glyn
John Glyn

Decode, deconstruct. Erthygl sy’n glyfar iawn, ac yn llawn o buzzwords ‘Cymdeithas yr Iaith- aidd’ er mwyn apelio at y rebels – ‘Tai Haf’, ‘Hawl i fyw adref’, ’datrysiad??’ i’r ‘argyfwng tai’, ‘Community led’ bla bla. Ond yn sylfaenol yr hyn mae Walis George, cyn gadeirydd Grwp Cynefin, wir yn ei geisio yw caniatad i’r cymdeithasau tai gael codi mwy eto o stadau. Ie, da iawn ar gyfer y digartef yn gyffredinol wrth gwrs. Ond heb rhywfodd dynhau’r gofynion ar gyfer gosod tai yng Ngwynedd fe fydd y datblygiadau hyn yn llwyr ddifaol yn eu heffaith ar obeithion parhad y Gymraeg yn Nyffryn Peris ac yng Ngwyrfai. Yn y cyfamser byddai’n dda cael gwybod data cyfredol y dyraniadau (allocations) – er enghraifft union niferoedd y tenantiaid sydd yma heb gyfarfod criteria ‘y cysylltiad lleol’ a’u lleoliad – hyn er mwyn medru ymateb yn wybodus ac yn strategol i unrhyw newidiadau demograffig sydd eisoes yn digwydd. Heb y data mae unrhyw gynllunio ieithyddol yn amlwg yn amhosibl.

Llyr Ap Rhisiart
Llyr Ap Rhisiart

Mae gan gynlluniau tai dan arweiniad y gymuned rol allweddol i’w chwarae. Manteision amlwg yn cynnwys a. mae posib datblygu polisi gosod sydd yn cyd fynd ac anghenion y gymuned, b. cadw asedau yn mherchnogaeth y gymuned, c. defnyddio’r asedau hynny wedyn i brynu / datblygu mwy o dai. Pur wahanol i’r hyn mae cymdeithasau tai ar Cyngor Sir yn gallu ei wneud.

John Glyn
John Glyn

Er mwyn cyfarfod disgwyliadau tryloywoder, ddeall yn fwy eglur yr hyn sy’n digwydd yn ddemograffig, a gallu ymateb yn fwy gwybodus i’r hyn all fod yn digwydd yn ieithyddol – a gawn ni plis rwan gael gwybod y canlynol. Faint o’r tai sydd wedi’i gosod yn gyfredol yng Ngwynedd sydd wedi’i gosod i denantiaid sydd yn hannu yn ‘wreiddiol’ o’r tu allan i Ogledd Cymru? Nid faint sydd yn honni ‘cysylltiad lleol’, nac ychwaith ac a fuont ‘in transit’ mewn rhyw fodd er mwyn medru honni ‘cysylltiad lleol’. Nid chwaith pa iaith mae nhw’n siarad. Ond faint o’r deiliaid presennol oedd yn byw yn ‘wreiddiol’ y tu allan i Ogledd Cymru? Sut yr hwyluswyd iddynt ddod i Wynedd, trwy ba drefniadaethau, partneriaethau, dealltwriaethau, rhwng gwahanol asiantaethau? A phwy yn union oedd y rhain? Diolch.

John Glyn
John Glyn

Wir? Ydyn nhw wir wedi’i heithrio o’r gofynion statudol Prydeinig? Neu jest small scale token neu rhywbeth ia? Sut mae nhw’n exempt ran y darlun mawr a’r disgwyliadau ehangach?

John Glyn
John Glyn

Fe fyddwn ni yn naif o’r mwyaf Llyr os y credwn ni na fydd gan y Cymdeithasau Tai rol sylweddol i’w chwarae yn hyn i gyd yn ol y modelau fydd gan Walis i’w cynnig. Ond cawn weld wrth gwrs…

John Glyn
John Glyn

Mae amharodrwydd yr elite Cymraeg i feirniadu’r niwed amlwg mae’r Cymdeithasau Tai yn ei wneud i’r Gymraeg yn y pentrefi i mi yn atseinio ac yn ategu damcaniaeth Simon Brooks – ‘Pam na fu Cymru’. Pam na fu Cymru? Am i’w harweinwyr ddewis cofleidio a gorseddu ideoleg ‘Rhyddfrydiaeth’ o fewn y ffram Brydeinig yn hytrach na diffinio a blaenoriaethu yn nhermau gwarchod hunaniaeth ‘y Bobl Gymreig’ – chwedl J.R.Jones. Ac mae’r un peth yn dal i ddigwydd wrth gwrs… Hynny yw yn sylfaenol mae hawl yr ‘Unigolyn’ ym Mhrydain heddiw, o ble bynnag y daw, i hawlio’i breswyl, ble bynnag y myn, yn bwysicach na hawliau’r ‘Cymunedau’ Cymraeg i fyw.