Treialon Cŵn Defaid Nant Peris a’r Cylch 2021

Diwrnod llwyddiannus gyda 64 yn cystadlu.

gan Kate Pritchard

Ennillydd y dosbarth agored: E. L Morgan

Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fedi daeth 64 o gystadleuwyr/gŵn i gymryd rhan yn Nhreialon Cŵn Defaid Nant Peris a’r cylch.

Treialon llwyddiannus iawn ar ôl peidio gallu cynnal un flwyddyn ddiwethaf. Hoffai’r pwyllgor ddiolch i’r beirniad Rhion Owen, pawb a wirfoddolodd ar y cae ar y diwrnod ac i’r cystadleuwyr am ein cefnogi unwaith eto.

CANLYNIADAU TREIALON 2021
DOSBARTH AGORED

1) E L Morgan, Nel. 8
2) Gwilym Davies, Gwyn. 9
3) Idris Thomas, Nel. 12
4) Medwyn Evans, Eryri Nan. 14
5) Aled Owen, Bud. 15
6) E W Edwards, Jet. 16

DOSBARTH 2
1) Gwilym Davies, Gwyn. 11
2) Hefin Jones, Llanfarian Mirk. 12
3) Jack Roberts, Shep. 14
4) Medwyn Evans, Eryri Jini. 17
5) E W Edwards, Dan. 18

LLEOL
1) Bryn Griffiths, Cap
2) Bryn Griffiths, Meg
3) Michael Williams, Meg
4) Michael Williams, Ffur