Dydy stori fach ddim yn fach i bawb: Nia ym myd Newyddiadura

Nia George o Frynrefail yn trafod ei phrofiadau ar gwrs newyddiadura a phwysigrwydd newyddion bro.

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa
196542986_531402767857204
197441103_480319799633292
196469211_511393450305094

Mae Nia newydd orffen astudio cwrs meistr Newyddiadura Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd. Aeth criw Tudalen yr Ifanc am sgwrs i ddysgu mwy am ei phrofiadau yn ystod blwyddyn llawn newyddion!

Llongyfarchiadau mawr i Nia sydd wedi cael ei phenodi fel un o’r newyddiadurwyr digidol newydd i ap a gwefan Newyddion S4C. Ers lansio ym mis Ebrill, mae’r ap a’r wefan wedi cyhoeddi cannoedd o straeon gwreiddiol, a hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru, yn ogystal â chyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C a gynhyrchir gan BBC Cymru.