Cyhoeddi Eco’r Wyddfa

Mae rhifyn Mai yn y siopau!

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Yn y rhifyn hwn:

  • Cyfweliad ȃ phennaeth newydd Amgueddfa Lechi Cymru
  • Hanes Band Pres Llanrug
  • Bronwen ar FFIT Cymru
  • Tips garddio’r gwanwyn
  • Chwilota

a mwy!

Dosbarthu’r Eco

Am y tro, mae’r Eco yn parhau i gael ei werthu drwy siopau lleol yn unig, a diolch iddynt. Yng nghyfnod Covid-19 diogelwch ein dosbarthwyr a chi y darllenwyr sydd bwysicaf wrth gwrs, ac felly dros yr wythnosau nesaf byddwn yn trafod a dod i gytundeb ar drefniadau dosbarthu ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i’r criwiau o wirfoddolwyr sydd fel arfer yn dosbarthu’r Eco ar draws yr ardal, ac yn diolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni geisio ail-sefydlu ‘hen drefn newydd’.