gan
Eco'r Wyddfa
Yn y rhifyn hwn:
- Cyfweliad ȃ phennaeth newydd Amgueddfa Lechi Cymru
- Hanes Band Pres Llanrug
- Bronwen ar FFIT Cymru
- Tips garddio’r gwanwyn
- Chwilota
a mwy!
Dosbarthu’r Eco
Am y tro, mae’r Eco yn parhau i gael ei werthu drwy siopau lleol yn unig, a diolch iddynt. Yng nghyfnod Covid-19 diogelwch ein dosbarthwyr a chi y darllenwyr sydd bwysicaf wrth gwrs, ac felly dros yr wythnosau nesaf byddwn yn trafod a dod i gytundeb ar drefniadau dosbarthu ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r criwiau o wirfoddolwyr sydd fel arfer yn dosbarthu’r Eco ar draws yr ardal, ac yn diolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni geisio ail-sefydlu ‘hen drefn newydd’.