Newyddion Pentref Eco’r Wyddfa – Waunfawr

Newyddion pentref Waunfawr gan ohebydd y pentref Iola Llewelyn Gruffydd

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Gan nad yw Eco’r Wyddfa yn gallu cael ei argraffu a’i ddosbarthu yn ystod y cyfnod yma, allai ofyn i chi sydd yn darllen yr erthygl hon, i wneud yn siŵr fod cymaint ag sy’n bosibl o bobl yn gwybod bod y newyddion yma ar gael ar lein?

Mae’r trefniadau canlynol yn parhau yn eu lle hyd y gwn i : 

Mae Caffi Antur Waunfawr yn dosbarthu prydau bwyd i’r rhai sy’n gaeth i’w cartrefi : ffoniwch 01286 650937 i archebu neu e bostiwch ifan.tudur@anturwaunfawr.cymru

Mae Sali Burns, Tŷ Capel a chriw o wirfoddolwyr wedi dosbarthu taflen i rhan fwyaf o dai yr ardal yn nodi enw rhywun medrwch  gysylltu â nhw i ofyn am help.   Deallaf bod nifer yn defnyddio’r gwasanaeth pwysig yma, diolch yn fawr i bawb sy’n gwirfoddoli.

Siop y Pentref  –  Rydym yn lwcus iawn i gael siop cystal yn y pentref.  Diolch i Lindsay a Martin am sicrhau bod y siop yn danfon nwyddau i’r drws am ddim i’w cwsmeriaid sy’n gaeth i’w cartref.  Medrwch dalu am y nwyddau gyda cherdyn dros y ffôn wrth archebu, neu gyda arian parod wrth y drws. Y rhif i gysylltu ydi: 07551392227

Syrjeri Waunfawr – mae’r syrjeri yn dal ar gael i bawb sydd ei angen, ac rydym yn ddiolchgar iawn bod ganddom wasanaeth mor ardderchog yn y pentref.   Diolch i holl staff y syrjeri am eu gwaith  ystod y cyfnod yma.   Mae grŵp ‘Meddygfa Waunfawr Surgery’ wedi ei sefydlu ar Facebook sy’n cynnwys yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf.

Llongyfarchiadau

I Sion a Zoe,  Sŵn y Gwynt, Bod Hyfryd ar enedigaeth merch fach, Nanw Swyn, chwaer fach i Dei a Huw, wyres i Janet a Pete Greasley, gor wyres i Grace Dawson a David a Gwladys Greasley.

I Dion a Lel ar enedigaeth Tomi Huw, ŵyr cyntaf i Delyth a Meic, Stad Bod Hyfryd a gor wyr i Iona.

Priodas: 

Llongyfarchiadau i Llion Iwan a Rhiannon ar eu priodas ddiweddar, pob hapusrwydd i chi i’r dyfodol. Maent bellach yn ymgartrefu yng Nghaeathro.

Ymddeoliad: 

Dymuniadau gorau i Angela, Bryn Golau ar ei hymddeoliad diweddar.  Mae wedi rhoi 30 mlynedd o wasanaeth i drigolion y pentref fel gofalwraig cartref. Rydym wedi arfer gweld Angela yn teithio ar ei beic rhwng y gwahanol gartrefi, gan gychwyn yn fore iawn ac yn parhau i weithio tan yn hwyr y nos. Mae’n diolch yn fawr i chi Angela, a gobeithio byddwch yn mwynhau eich ymddeoliad.  Rydych yn haeddu medal am eich ymroddiad.

Dymuniadau Gorau a gwellhad buan i:

Cadi, Nant, sydd wedi gorffen ei thriniaeth ac adra yn gwella ac yn cael tendars gobeithio gan John!  Dymuniadau gorau i chi Cadi.

I Brenda Jones, Tŷ Ni sydd bellach adref o’r ysbyty , croeso adref a dymuniadau gorau i chi Brenda.

Cydymdeimlo: 

Rydym yn cydymdeimlo â’r canlynol:  teulu’r diweddar Maggie Lizzie Jones, Waunfawr.  Roedd yn fam i Dewi, Megan, William, Carolyn a’r diweddar Emyr, ac hefyd yn nain, hen nain ac yn hen hen nain.

Rob Jones a theulu Tan y Fron wedi marwolaeth brawd Rob oedd yn byw yn Lerpwl.

Iwan Williams, Groeslon Isaf ar farwolaeth ei fam.

Gwyneth Thomas,. Syrjeri Waunfawr, ar farwolaeth ei thad oedd yn byw yn Llanrug.

Rosalind ac Emrys a theulu Yr Efail ar farwolaeth Wil, brawd Rosalind

Bu farw Elwyn Griffith, Cae Ysgubor, Betws Garmon.  Cyfrannodd yn helaeth i fyd treialon cŵn defaid, gan gystadlu ac ennill llawer.

– derbyniwch ein cydymdeimlad â chi yn eich profedigaeth, eich colled a’ch hiraeth

Teulu Pant Gwyn a’r defaid Valais 

Rydym wedi hen arfer gweld teulu Pant Gwyn ar y teledu erbyn hyn gyda’u defaid Valais hardd, ac roeddynt ar y teledu eto mis yma, ar ddwy raglen wahanol, sef Ffermio a Coast and Country.  Fferm Hafod y Rhug oedd y lleoliad ar gyfer y ddwy raglen a gwelsom Gerallt a Kelly, Alffi, Luca a Jodie yn cymryd rhan ac yn dangos y defaid a’r ŵyn bach.

Diolch i holl blant y pentref sydd wedi bod yn addurno ffenestri eich tai gyda lliwiau’r enfys fel arwydd o ddiolchgarwch i weithwyr iechyd a gofal – mae nhw i gyd yn edrych yn hyfryd, ac yn codi ein calonnau i gyda pob tro rydym yn eu gweld.

Diolch hefyd i Yvonne Rowlands a Morrissons Caernarfon am drefnu bod wyau Pasg yn cael eu dosbarthu i blant y pentref.

Diolch hefyd i’r bobl sy’n sicrhau bod gwasanaethau hanfodol eraill yn parhau – staff gofal sy’n darparu gofal yn y gymuned, staff y gwasanaeth Post, staff y lori sbwriel a’r ailgylchu, a staff y gwasanaeth bysiau hefyd. Ymddiheuriadau os rydwi wedi gadael rhywun allan, rydym yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth i gyd.

Llun o dim dan 7 Waunfawr sydd yn chwarae yn cynghrair Gwyrfai. Cynan, Alfie Bo, Mabon, Alffi Mei, Liam, Alfie Wyn a Elis. Cit wedi ei noddi gan LL. M. R CLEANING SERVICES

Dymuniadau gorau i’r holl bentrefwyr ar yr adeg anodd hwn i ni i gyd.  Mae Waunfawr, fel pobman arall wedi newid yn arw yn ystod yr wythnosau diwethaf.  Mae rhai pethau positif wedi dod o’r argyfwng – y traffic wedi gostwng, dim carafannau na moto beics yn gyrru’n ddi-baid drwy’r pentref.   Mae llawer mwy o bobl yn mynd am dro ac rydym yn dod i adnabod ein gilydd yn well fel pentrefwyr, ac yn bennaf, rydym fel cymuned wedi cael cyfle i fod yn gefn i’n gilydd drwy wneud cymwynasau bach a mawr, a gobeithio y bydd hynny yn parhau i’r dyfodol.

Diolch i Daron, Bryn Eithin am sgwennu hanes antur gafodd y teulu yn Katamandu yn ddiweddar, profiad bythgofiadwy i chi i gyd, gallwch ddarllen yr erthygl yma yn fuan.

Cofiwch gysylltu gyda Iola os oes gennych chi newyddion i’w gynnwys fis nesaf:

Iola Llewelyn Gruffydd, Tegannedd. 01286 650035, iolallew@hotmail.co.uk