Newyddion Pentref Eco’r Wyddfa – Llanberis

Newyddion pentref Llanberis Eco’r Wyddfa: llwyddiant ’Steddfod, diweddariad capel a’r eglwys a mwy!

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

[Eitem o rifyn Ebrill Eco’r Wyddfa]

Eglwys Sant Padarn Ni fydd gwasanaethau yn ystod yr anghydfod presennol. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau pellach, nid yw’n bosib agor Eglwys Sant Padarn o gwbl erbyn hyn

Cymdeithas Capel Coch Nos Fawrth, y 10fed o Fawrth, cafwyd sgwrs gan Cadi Iolen, o’r Amgueddfa Lechi, am ddyddiau olaf Chwarel Dinorwig yn 1969. Diolchwyd iddi am ei chyfraniad graenus gan Gareth Jones.

Oherwydd yr amgylchiadau dyrys sy’n bodoli ar hyn o bryd, fe benderfynodd y Swyddogion ohirio’r Cinio Blynyddol, oedd i’w gynnal ar Ebrill y 4ydd!

Gwasanaethau Capel Coch a Capel Jerusalem Ni fydd gwasanaethau yn yr Eglwysi hyn tan y bydd yr argyfwng presennol trosodd.

Ysgol Dolbadarn

Sioe Mewn Cymeriad Bu Tudur Phillips i’r ysgol yn ddiweddar yn adrodd Straeon Y Mabinogi i ddisgyblion yr Adran Iau fel rhan o’r thema Chwedlau. Yr oedd pawb wedi mwynhau cael clywed chwedlau a gwisgo i fyny i gymryd rhan yn y sioe.

NSPCC Daeth Rhian o NSPCC i’r ysgol yn ddiweddar i drafod pwysigrwydd cadw ein hunain yn ddiogel. Mae’r plant yn ymwybodol iawn o beth i’w wneud os oes unrhyw beth yn eu poeni ac yn gofalu yn annwyl am ei gilydd.

NSPCC

Gala Nofio Llongyfarchiadau i dîm Nofio yr ysgol ar eu perfformiad yng Ngala Nofio’r Urdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae dawn nofio yn amlwg yn yr ysgol – da iawn chi blant!

 

Arwyddion y Gwanwyn

Arwyddion Y Gwanwyn Braf iawn yw gweld disgyblion y buarth yn gwerthfawrogi ardaloedd ‘gwyrdd’ yr ysgol. Dyma ddisgyblion Bl 1+2 yn chwilio am ryfeddodau natur ac arwyddion y Gwanwyn. Mae rhai bylbiau wedi egino yn barod.

 

Beiblau Diolch i’r Parchedig John Pritchard am drefnu nawdd i sicrhau y bydd pob disgybl CA2 yn derbyn Beibl newydd cyn bo hir.

Codi Sbwriel Fel rhan o thema ‘Sbwriel Sbango’ dyma disgyblion Blwyddyn 1+2 yn brysur yn cerdded o gwmpas y pentref yn codi sbwriel.

Caslgu Sbwriel

Eisteddfod Yr Urdd Bu pawb wrthi yn ymarfer yn ddiwyd ar gyfer yr Eisteddfod a hynny yn dwyn ffrwyth eto eleni. Dyma ganlyniadau yr Eisteddfod Cylch

  • Elin Mair Harmer, 1af Chwythbrennau
  • Elin Sian Evans, 2il Chwythbrennau
  • Parti Llefaru, 2il
  • Côr Cerdd Dant, 1af
  • Côr B 6 ac iau, 1af
  • Parti Deulais, 1af

Llongyfarchiadau hefyd i Ioan Owen am gyrraedd y llwyfan yn y llefaru Bl 5+6 ac i’r unigolion fu yn cystadlu ar y dawnsio disgo.

Sport Relief Cafwyd diwrnod llawn gweithgareddau chwaraeon wedi ei drefnu gan y Cyngor Ysgol ar gyfer yr elusen a chasglwyd £220.

Sports Relief

Darllen Dros Gymru Llwyddodd ddau dîm o ddisgyblion CA2 i gystadlu yn y cwis llyfrau eleni. Bu pawb wrthi’n brysur yn darllen dwy nofel sef Tricsi a Dicsi a Teulu Tŷ Bach. Daeth Sioned Rowlands o’r llyfrgell i drafod gyda’r plant – croesi bysedd ei bod wedi ei phlesio ag ymatebion y plant.

Cwis Lyfrau

Diwrnod Y Llyfr a Gŵyl Ddewi Cafwyd wythnos brysur iawn ar ddechrau Mis Mawrth – dathlu diwrnod y llyfr gyda phawb yn gwisgo fel hoff gymeriad o lyfr a Dydd Gŵyl Ddewi gyda phawb yn ymfalchio yn eu Cymreictod drwy amryw o weithgareddau cyffrous.

Dathlu Dewi
Diwnrod y Llyfr