Nôl yn 1974 roeddwn i a’m set radio yn y coleg ym Mangor. Fi oedd y myfyriwr!
Rwy’n crybwyll y set radio am mai dyna’r unig beth oedd gennyf (ar wahân i ddillad a llyfrau a brwsh dannedd) yn f’ystafell yn Neuadd John Morris Jones, y ‘neuadd Gymraeg’ a sefydlwyd ym mis Hydref y flwyddyn honno. Wn i ddim pa offer oedd ar gael i bobl a ddilynai gyrsiau eraill, ond doedd ar rywun fel fi yn yr Adran Astudiaethau Beiblaidd angen dim ond llyfrau a phapur a beiro. A hyd y cofiaf, ddaeth yr un teclyn arall i gadw cwmni i’r radio dros y pum mlynedd a dreuliais ym Mangor.
Rwy’n hel atgofion am i mi ddigwydd taro ar hen eitem newyddion ddifyr o’r flwyddyn 1974 ar Youtube. Eitem am gyfrifiaduron oedd hi, a’r holwr a’r sawl a holwyd yn sefyll wrth gyfrifiadur enfawr a lenwai’r stafell. Darogan oedd yr arbenigwr a gâi ei holi y byddai gan bobl, erbyn 2001, gyfrifiadur (a sgrin deledu a bysellfwrdd yn sownd wrtho) yn eu cartrefi a fyddai’n eu galluogi i wneud pethau fel archebu tocynnau theatr a gweld datganiadau cyfrif banc. Byddai’r
cyfrifiadur, meddai, yn galluogi pobl i gysylltu â chyfrifiaduron a phobl eraill, a hyd yn oed yn golygu y gallai pobl fyw unrhyw le yn y byd, a dal i gynnal busnes a gwneud eu gwaith.
Gallaf ddychmygu anghrediniaeth pobl wrth glywed y dyn hwn yn siarad yn 1974. Wedi’r cwbl, dim ond saith mlynedd oedd ers i ni gael teledu lliw yng ngwledydd Prydain! Pwy ond arbenigwyr yn eu maes a fyddai wedi medru dychmygu a darogan y chwyldro technolegol a gafwyd ers hynny? Ond ymhen deuddeng mlynedd roedd gennym ninnau Amstrad PCW 8256 ar y ddesg yn Abersoch; ac erbyn 1991 (deng mlynedd yn gynharach na’r darogan yn y cyfweliad) roedd y ‘We fyd-eang’ wedi ei chreu. Nid bod ein Amstrad bach del ni’n dda i ddim ar gyfer honno chwaith!
Ar y pryd, fyddai gwylwyr yr eitem newyddion, na minnau a’m set radio ym Mangor o ran hynny, wedi medru dychmygu’r hyn sydd gennym a’r hyn sy’n bosibl i ni heddiw. Mae’r cyfrifiadur mewn ffôn symudol filiynau o weithiau’n fwy pwerus na’r cyfrifiaduron a ddefnyddiwyd gan NASA i anfon y dynion cyntaf i’r lleuad yn 1969. Ie, nôl yn 1974, pwy ond pobl a oedd yn hyddysg ym maes cyfrifiaduron a fyddai wedi medru rhagweld y fath beth?
Rydym newydd ddathlu’r Sulgwyn a dyfodiad yr Ysbryd Glân ar y disgyblion. Cyn hynny, buom yn dathlu’r Pasg. Fyddai neb ohonom wedi medru darogan, flwyddyn yn ôl, y byddem wedi gorfod gwneud hynny eleni â holl gapeli ac eglwysi ein gwlad wedi cau oherwydd argyfwng Covid-19. Doedd gan Eseia a Daniel a Micha a Joel a’u tebyg radio, na beiro hyd yn oed. Ond ganrifoedd cyn geni Iesu Grist a chyn tywalltiad yr Ysbryd ar y Pentecost roedd y dynion hyn wedi rhagweld y digwyddiadau hynny. Ond nid clyfrwch cynhenid nac unrhyw beth a ddysgon nhw mewn coleg na phrifysgol a’u galluogodd i wneud hynny, ond y ffaith fod Duw wedi eu hysbrydoli i broffwydo ac i ddisgrifio’r un a ddeuai yn Achubwr i’w bobl ryw ddydd. Mae miliynau o bobl yn dal i ryfeddu at y fath ddarogan. Ond maent yn rhyfeddu filiynau o weithiau’n fwy at yr Achubwr ei hun.