Enw dau bentref sydd gennyf dan sylw y tro hwn, er mai enwau tai oedd y ddau i gychwyn. Gwelir hyn o hyd yn enw Caeathro Bach. Y cyfeiriad cynharaf a welais at enw Caeathro oedd Kay yr athro o’r flwyddyn 1558. Rhaid troi yn awr at waith ymchwil yr Athro Melville Richards. Credai ef fod rhai o ddisgynyddion yr athro arbennig sydd yn enw’r lle yn byw ym mhlwyf Llanddeiniolen yn y bymthegfed ganrif. Un ohonynt oedd Tangwystl ferch Ieuan ap Llywelyn ap Robyn ap Madog ab yr Athro, a dyna roi inni ddarn go lew o deulu’r Athro. Daw’r cyfeiriad at Dangwystl o’r flwyddyn 1430. Wrth olrhain yr ach yn ôl yn ofalus gellir amcangyfrif y byddai’r Athro ei hun yn fyw yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cadarnheir hyn gan gyfeiriad at Gwenllian ferch yr Athro ( ‘mergh Erathro’ sydd yn y cofnod) a ymddangosodd yn y llys yng Nghaernarfon yn 1364, ac Ieuan ap Rathro yn 1370. Anaml iawn y medrwn ddod i wybod cymaint am deulu’r bobl y cyfeirir atynt mewn enw lle.
Pa fath o athro fyddai hwn, tybed? Gallai o bosib fod yn athro barddol, ond mae’n fwy tebygol ei fod yn ŵr a chanddo rywfaint o ddysg a fyddai’n cymryd plant a phobl ifanc addawol ato i ddysgu iddynt ddarllen ac ysgrifennu.
Enw tŷ oedd Cwm-y-glo hefyd i gychwyn. Rhaid cofio nad y math o lo yr arferem ei losgi yn y grât yw’r glo yn yr enw hwn, ond golosg (‘charcoal’). Mae’r un elfen i’w gweld yn enw Erw Pwll y Glo, sydd ar y ffin rhwng plwyfi Llanrug a Llanddeiniolen nid nepell o gapel Nasareth. Mae hwn yn hen enw: ceir cyfeiriad ato fel Erowe Pwll y glo yn 1597. Daw’r cyfeiriad cynharaf a welais at Cwm-y-glo o’r flwyddyn 1770.
Llosgid golosg mewn pyllau neu dwmpathau am amser hir yn ystod yr haf i gynhyrchu tanwydd ar gyfer diwydiannau o bob math. Roedd y golosg yn hynod o bwysig yn efail y gof, gan ei fod yn creu tân arbennig o eirias. Gan nad yw hon yn ardal lofaol, a phobl yn dechrau anghofio am yr arfer o greu golosg, ceisiodd rhai egluro enw Cwm-y-glo fel Cwm-y-clo,ond anfoddhaol oedd eu hesboniadau.