Mae adroddiadau bod dwy ddynes, a oedd yn breswylwyr yng nghartref gofal Plas Pengwaith yn Llanberis, wedi marw. Roedd un wedi cael prawf positif am y coronafeirws a chredir bod yr ail ddynes hefyd wedi marw o ganlyniad i’r feirws, ond nid yw hynny wedi ei gadarnhau.
Mae’r cartref gofal yn cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cau ei holl gartrefi gofal i ymwelwyr yn sgil y coronafeirws.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae mesurau llym mewn lle ym mhob un o adeiladau’r cyngor er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws.”
“Er mwyn diogelu unigolion sy’n cael eu profi a’r rhai sy’n cael eu trin am y firws, ni allwn roi sylwadau am gyfleusterau penodol y Cyngor.
“Rydym yn gofyn i’r rhai sy’n gohebu ar Covid-19 i barchu cyfrinachedd cleifion.
“Nid yw’n briodol i ni rannu unrhyw wybodaeth ar wahân i’r manylion a gyhoeddwyd yn natganiadau dyddiol swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru.”
“Trychineb”
Dywedodd Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru: “Er na allwn roi sylwadau ar achosion unigol, mae’n drychineb ofnadwy bob tro mae person yn colli ei fywyd i’r firws.
“Mae’n ategu’r hyn y mae Fforwm Gofal Cymru ac eraill wedi bod yn ei ddweud dros y misoedd diwethaf am bwysigrwydd amddiffyn cartrefi gofal.
“Fel gwlad, mae ein hymateb i’r sefyllfa wedi bod yn araf, ers wythnosau mae Fforwm Gofal Cymru wedi bod yn pwysleisio pwysigrwydd cau cartrefi gofal i’r cyhoedd, rhoi offer diogelu personol i gartrefi a phrofi staff a phreswylwyr cartrefi gofal.
“Mae 20,000 o welyau mewn cartrefi gofal Cymru o’i gymharu â 12,000 o welyau yn ein hysbytai, felly mae gan ofal cymdeithasol rôl gwbl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi’r GIG, a hynny’n fwy nag erioed erbyn hyn.”
166 wedi marw yng Nghymru
Dydd Sul (Ebrill 5) cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 12 marwolaeth newydd yng Nghymru o ganlyniad i’r coronafeirws.
Mae’n golygu bod 166 bellach wedi marw o’r firws yng Nghymru.
Mae 355 o achosion newydd wedi’u cadarnhau, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 3,197.
Dyw’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir oherwydd y ffordd mae profion yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.