“Mae Cambodia yn gymysgedd o bethau – yn ddinasoedd prysur a chanddi ynysoedd anghysbell”

Teithio o amgylch De-ddwyrain Asia cyn i’r Coronafeirws daro.

Anna Wyn
gan Anna Wyn

Ar Ionawr 27ain 2020 mi gychwynnais ar daith i Dde-ddwyrain Asia am 2 fis. Y bwriad oedd teithio Cambodia, Fietnam, Laos, Thailand, Bali a Singapore, ac mi lwyddais i deithio 4 gwlad a hanner cyn gorfod dod adref oherwydd COVID-19. Ers fy mod i tua 16 roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd i deithio, a dwi mor ddiolchgar mod i wedi llwyddo i weld cymaint cyn dychwelyd i Gymru.

Mi es i Cambodia, Fietnam, Laos, Thailand gyda’r cwmni G Adventures. Roedd y cwmni yn trefnu’r daith gyfan a dwi’n hynod o falch mod i wedi mynd ar y daith benodol yma. Roeddwn yn cyfarfod pawb oedd yn mynd ar y daith ar ôl cyrraedd Bangkok, doedd neb o’r grŵp yn adnabod ei gilydd cyn cyrraedd. Rhaid i mi gyfaddef mod i ychydig yn nerfus yn mynd ar daith gyda chriw o ddieithriaid, ond heb air o glwydau mi ddaethom ni gyd yn ffrindiau gwych o fewn diwrnod. Faswn i ddim wedi gallu gofyn am griw gwell i rannu’r daith gyda nhw.

Mae lot wedi gofyn i mi ers i mi ddod adref, pa wlad oedd fy hoff wlad ar y daith? Ar ateb ydi Cambodia, a Laos yn ail agos iawn. Efallai oherwydd mai dyma’r stop cyntaf, a bod popeth yn newydd ac yn gyffrous. Ond hefyd gan fod Cambodia yn wlad nad oeddwn yn gwybod lot amdani, na chwaith yn adnabod llawer o bobl oedd wedi bod ac felly doedd gen i ddim llawer o syniad yn fy mhen o sut wlad oedd hi’n mynd i fod.

Mae Cambodia yn gymysgedd o bethau – yn ddinasoedd prysur a chanddi ynysoedd anghysbell. Rhai o brofiadau gorau’r trip oedd gweld yr haul yn gwawrio yn Angkor Wat (teml grefyddol mwya’r byd) a threulio deuddydd ar ynys Koh Rong – paradwys go iawn. Wrth i mi feddwl am fynd i deithio, dyma rai o’r profiadau oedd gen i mewn golwg ond doeddwn i ddim wedi disgwyl eu cael yn Cambodia, ac o fewn pythefnos cyntaf y trip.

Ynys Koh RongAngkot Wat

Un o’r profiadau eraill a oedd yn annisgwyl oedd yr ‘homestays’ (homestay ydi pan rydych yn aros mewn tŷ gyda theulu lleol). Roedd popeth yno yn syml iawn, doedd dim trydan ac roeddem yn cysgu ar fatres ar y llawr. Ond heb amheuaeth dyma lle cefais i’r bwyd gorau pob tro. Roedd trigolion y pentrefi yn dod at ei gilydd i wneud bwyd cartref i ni – reis, cyris a llysiau y rhan fwyaf o’r amser. Roedd cael treulio noson gyda’r bobl yma yn brofiad arbennig, roeddent mor garedig ac yn falch o gael rhannu eu diwylliant gyda ni.

Homestay yn ThailandHomestay yn Laos

Roedd wythnosau cyntaf fy nhaith yn wych, roeddwn i wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn cael profiadau gwahanol pob diwrnod. Ond doedd dim diwrnod yn mynd heibio heb i rywun sôn am y coronafeirws. Roeddem i gyd yn ymwybodol ohono. Roeddem yn gwisgo masgiau mewn llefydd twristaidd ac yn defnyddio ‘hand sanitizer’ yn gyson. Ond mewn gwirionedd feddyliodd neb y byddai’n rhaid i ni orffen ein teithiau yn fuan o’i herwydd. Fe orffennodd taith G Adventures ar y 7fed o Fawrth, fe ffarweliais gyda rhan fwyaf o’r criw ond fe dreuliais noson ychwanegol gyda fy ffrindiau agosaf ar y daith cyn hedfan ymlaen i Bali.

Yn Bali roeddwn yn cyfarfod ffrind i mi o Gymru a oedd yn dod i Bali a Singapore efo fi am 3 wythnos. Pan gyrhaeddais Bali bu rhaid i mi lenwi ffurflen iechyd yn nodi nad oeddwn yn sâl cyn cael gadael y maes awyr. Fe dreuliais i a fy ffrind ychydig nosweithiau mewn gwesty yn Bali cyn cyfarfod grŵp arall i fynd ar daith wedi ei threfnu gan Intro Travel y tro hwn.

Ond o fewn wythnos roedd ein hawyren i Singapore ac adref wedi ei chanslo a hefyd taith Intro Travel. Roedd gwledydd Ewrop hefyd yn mynd mewn i ‘lockdowns’ pob dydd felly roedd yn rhaid i ni geisio cael ffordd adref. Mi fuodd y ddwy ohonom yn hynod o lwcus ac fe lwyddom i gael awyren adref y syth wedi i Intro Travel gyhoeddi fod y daith wedi ei chanslo. Fe gymerodd hi 32 o oriau i gyd gyda’i gilydd i ni deithio o Bali yn ôl i Ogledd Cymru, siwrne hynod o drist. Er ei fod wedi bod y penderfyniad cywir i ni ddod adref pan wnaethom ni, roedd hi hefyd yn siom ofnadwy. Dwi’n siŵr i’r ddwy ohonom grio ar un pwynt!

Felly mi ges i daith anhygoel, a dwi’n dal mewn cysylltiad gyda’r ffrindiau wnes i ar daith G Adventures. Er fy mod i a fy ffrind wedi gorfod dod adref yn fuan, mae yn golygu fod gennym y cyfle i drefnu trip arall rŵan. Dwi wedi dechrau meddwl yn barod sawl gwlad allwn ni lwyddo i fynd iddyn nhw mewn 3 wythnos…

Ar y ffordd adref o BaliEliffant yn Thailand