Enwau lleoedd Dyffryn Peris – Cae Meta a Cae Llel

gan Glenda Carr

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Lleolir Cae Meta i’r de-ddwyrain o bentref Bethel.  Byddai’n amhosibl esbonio’r enw hwn heb dyrchu yn ôl i’w hanes.  Wrth drafod enw Cae Hoeden dywedais mai hen enw personol oedd Hoedyn. Er ei fod yn weddol anghyffredin, mae gennym enghreifftiau eraill ohono. Enw personol ar ddyn oedd Meta hefyd, ond mae hwn yn brinnach fyth. Dwn i ddim ai enw iawn y dyn oedd Meta neu a oedd yn dalfyriad neu’n enw anwes. Mae hyd yn oed yr Athro Melville Richards, yr arbenigwr mawr ar enwau lleoedd, yn dweud na welodd yr enw Meta yn unman arall heblaw am un cyfeiriad at ŵr o’r enw Hywel ap Meta a oedd yn byw ym Madrun yn 1502.

Y cyfeiriad cynharaf a welais i o’r enw yw Cae metta o’r flwyddyn 1555/6. Yn 1570 y ffurf a gofnodwyd oedd Kay Metta.  Yn yr un flwyddyn mae gennym gyfeiriad diddorol iawn at ryw dŷ o’r enw Tythyn nest vz Metta. (Talfyriad o ‘ferch’ yw’r ‘vz’). Roedd y tŷ hwn, fel Cae Meta, ym mhlwyf Llanddeiniolen. Felly, medrwn gasglu fod gan Meta, pwy bynnag oedd o, ferch o’r enw Nest, a bod y ddau ohonynt yn byw yn Llanddeiniolen erbyn ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg.

Arhoswn ym mhlwyf Llanddeiniolen i ymweld â Cae Llel i’r gogledd-orllewin o Riwlas. Pe baech yn olrhain datblygiad yr enw hwn fe welech fod yna gryn ansicrwydd ynglŷn â sut i sillafu’r ail elfen. Fe’i cawn wedi ei nodi fel Llell, Lell a Llêl. Ond  Llel sydd yn gywir. Enw dyn yw hwn hefyd, ond enw anwes y tro hwn. Enwau anwes yw’r enwau bach hynny a ddefnyddiwn i gyfleu anwyldeb, fel Deian a Loli. Mae llawer ohonynt yn y Gymraeg o hyd, ac maent yn dod yn fwy poblogaidd: enwau fel Guto, Twm, Begw a Cadi. Ein henw anwes arferol ni am rywun o’r enw Llywelyn yw Llew, ond ganrifoedd yn ôl  roedd y ffurf Llel yn fwy cyffredin. Gŵr o’r enw hwn oedd yn byw yng Nghae Llel ers talwm. Ffurf anwes arall ar yr enw Llywelyn oedd Llelo, a cheir ambell enghraifft o hwn hefyd mewn enw lle, ond mae hwn hyd yn oed yn brinnach na Llel.