Mae Caffi Caban yn Brynrefail yn ran o ganolfan Caban a sefydlwyd gyda gwerthoedd cynaliadwyedd yn ganolog. Braf iawn oedd cael bod yno ar y 4ydd o Chwefror ar gyfer trydydd Caffi Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Peris. Cynhaliwyd y cyntaf ym mis Tachwedd yng nghaffi’r Goeden Unig yn Llanberis, a’r ail ar lein ddechrau Rhagfyr er diogelwch COVID.
Mae Caffis Hinsawdd yn digwydd ar draws y byd. Mae nhw’n ddigwyddiadau anffurfiol. Cyfle i rannu barn, clywed gan eraill a gwneud cysylltiadau newydd.
Roedd yn hyfryd gweld rhai wynebau wedi dychwelyd ar ôl caffis blaenorol yn ogystal â wynebau newydd.
Dros y ddwy awr, gyda rhai yn mynd a dod fel sy’n ddisgwyliedig, cefais gwmni Moira, Rhian, Gareth, Eve, Lindsey, Kerry, Ruth a Trystan. Rhai wedi gweld yr hysbyseb ar Facebook ac eraill wedi cael clywed amdano gan ffrind.
Dyma rai o’r pynciau difyr ddaeth i fyny;
- Utopias Bach
- Ysgolion Cynradd lleol yn gwenud gwaith arbennig
- RSPB/CNC Natur am Byth y mae Eve yn weithio gyda
- Cyn adeilad ysgol Cwm y Glo i ddod yn bencadllys i Menter Fachwen
- Locavores (lle allwn ni brynnu bwyd wedi ei dyfu yn lleol?)
- Gareth & Menter Fachwen ‘Beth os…..?’ teithiau tywys yn dychmygu tirweddau gwahanol (ysbrydoliaeth i weithgaredd grwp)
- A fuasai gwresogi ardal yn bosib ym Mrynrefail?
- Asesiad a modelu dichonolrwydd ynni gan Trystan
- Profiad Ni – cyfnewid cyfoedion ymweliadau cartref i arddangos ymdrechion cynaliadwyedd domestig
- Clwb Gwnio @ Caban pob bore Mawrth
- Gwaith arbennig gan y cynhorydd cymunedol Cari Jones’ yn adeiladu cymuned
- Adeiladau newydd,
- Llwybrau pryfaid 3km ar draws
- Mynediad cynnar i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y Cynulliadau Hinsawdd
Yn dilyn hanes Gareth am ei deithiau cerdded ble gwahoddwyd cerddwyr i ddychmygu tirwedd mewn gwahanol ffyrdd, gwahoddais bawb oedd yno i wneud yr un peth yng nghyd-destun newid hinsawdd.
Cyn mynd adra, fe ges i ymweld â rhandiroedd Brynrefail gydag Angharad Owen. Engraifft arall arbennig o gymunedau yn tynnu gyda’ gilydd i fod yn fwy cynaliadwy.
Dwi’n hynod ddiolchgar i bawb a ddaeth draw a chymeryd siawns ar ddigwyddiad a pherson dieithr! Gobeithio yn fawr iddynt fod wedi canfod cymaint o fwynhad a gobaith yno ac y gwnes i.
Bydd y Caffi Hinsawdd nesa’ 4.3.22 am 10yb yn y Coffee Pot (Canolfan Gelf a Chrefft) Llanberis