Pegiau Pert

Busnes lleol wedi ei greu yn ystod yr amser clo!

Manon Jones
gan Manon Jones

Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn un anodd a heriol i bawb. Yn ystod yr ail glo penderfynodd Manon a Catrin o Ddeiniolen gychwyn menter fechan o’r enw Pegiau Pert. Roedd peintio yn cadw meddyliau’r ddwy oddi ar yr amser ansicr yma. Dechreuwyd y menter ar Hydref 30. Nid oeddent yn disgwyl y fath sylw. Maent yn creu llawer o gymeriadau gwahanol- teledu, straeon plant, archarwyr, gweithwyr allweddol a llawer llawer mwy. Hefyd maent yn brysur yn creu crefftau Nadolig. Mae ganddyn wefan facebook ac ar instagram- does dim ordor rhy fach nac rhy fawr i’r ddwy chwaer yma.