Canhwyllau Eryri yng nghylchgrawn Vogue!

Dechreuodd Aled Pritchard ac Anna Piechoca wneud canhwyllau i’r teulu fel anrhegion Nadolig.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Golwg360

Pan gafodd Aled Pritchard a’i bartner Anna Piechoca e-bost yn gofyn a fydden nhw’n hoffi i’w busnes ymddangos ar dudalennau’r beibl ffasiwn, Vogue, doedden nhw “methu credu’r peth!”

Ond erbyn hyn mae’r cwpl, a sefydlodd Canhwyllau Eryri yn 2017, wedi dechrau cael archebion o Lundain a thu hwnt, yn ogystal â chan eu cwsmeriaid ffyddlon yng Nghymru.

Fe astudiodd Aled Pritchard Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, ac mae yn dweud ei fod o “wastad yn gwybod fyswn i eisiau gweithio i fi fy hun”.

Yn ystod eu blwyddyn ola’ yn y brifysgol fe benderfynodd Aled Pritchard ac Anna Piechoca wneud canhwyllau i’r teulu fel anrhegion Nadolig.

Er gwaetha cyfyngiadau’r coronafeirws, maen nhw wedi gallu cario ymlaen i werthu am eu bod nhw’n cynhyrchu’r canhwyllau yn eu cartref.

“Mae bob dim gynnon ni yn y tŷ felly efo’r lockdown rydan ni wedi gallu ffocysu mwy ar y busnes, a rhoi 100% i mewn i’r peth,” meddai Aled Pritchard.

 

Darllenwch fwy am lwyddiant Canhwyllau Eryri yng nghylchgrawn golwg neu ar golwg+