Côr Dre yn ymarfer eto

Y côr wedi ailgychwyn, yn canu’r hen a’r newydd

Marged Rhys
gan Marged Rhys

Mae ymarferion rygbi Caernarfon bellach efo ychydig o gyfeiliant! Pan mae’r tywydd yn caniatáu, gallwch chi glywed Côr Dre yn ymarfer ar y Morfa.

Wedi bod wrthi ers tua 12 mlynedd bellach, mae aelodau o hyd a lled Arfon yn rhan o’r côr, yn cynnwys ein bro ni.