Trigolion ardal Wyddfa, ’da ni angen eich help chi!

Cyfle i bleidleisio dros ieuenctid BroWyddfa360 yng ngwobrau Bro360

gan Tomos Owen

Mae Gwrachod, Beyonce, ffeministiaeth, magu a mwy wedi’i henwebu ar gyfer y wobr ‘barn y bobl’ sy’n rhan o wobrau Bro360 2022.

Fedrwn ni gael stori gan griw ifanc Eco’r Wyddfa i’r brig?!

Dyma’ch cyfle chi i helpu BroWyddfa360 i ennill Barn y Bobol eleni, wrth bleidleisio am y stori rhwng rŵan ac amser cinio 28 Ionawr.

 

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Facebook Live Bro360 am 8pm nos Wener 28ain.

Yn ogystal, mae BroWyddfa360 wedi’i henwebu am y wobr Stori gwneud gwahaniaeth.

Cadwch lygad ar y cyfryngau i glywed pwy sy’n dod i’r brig!