Rhagor o lwyddiannau lleol yn y ’Steddfod

Llwyddiannau dydd Iau yn Eisteddfod yr Urdd

gan Catrin Elain Roberts

Roedd hi’n chwip o ddiwrnod ar y maes eto heddiw gyda phlant a phobl ifanc Bro’r Wyddfa’n cystadlu’n wych.

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Brynrefail am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Grŵp Llefaru Blwyddyn 7, 8 a 9.

Da iawn hefyd i Nanw Llwyd o Ysgol Brynrefail am gystadlu yn y gystadleuaeth Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 10 a dan 19 oed ac i Grŵp Ysgol Brynrefail am gystadlu yn y gystadleuaeth Grŵp Llefaru Blwyddyn 7, 8 a 9.