Enwau Lleoedd Dyffryn Peris – Braich Effri a Fachell

gan Glenda Carr

Eco'r Wyddfa
gan Eco'r Wyddfa

Mae Braich Effri yn Llanddeiniolen yn un o’r enwau gorau sydd gennym i ddangos sut y gall enw newid dros y blynyddoedd. Braich Effri yw’r ffurf ar lafar gwlad. Y ffurf ar y map OS yw Bach yr Hilfry, sydd ar yr olwg gyntaf yr un mor anesboniadwy â Braich Effri. Pwy neu beth oedd Effri a beth oedd mor hynod am ei fraich? Yr ateb syml yw nad oes yma neb o’r enw Effri nac unrhyw fraich. Ystyriwn ddwy elfen yr enw ar wahân. Mae’r elfen gyntaf yn gywir yn y ffurf Bach yr Hilfry, oherwydd yr hyn sydd gennym yn yr enw yw bach, nid yn yr ystyr o ‘bychan’ ond yn yr ystyr o lecyn neu gilfach. Ceir yr un elfen yn Fachwen.

Beth am yr ail elfen? Rhaid chwilio am y cyfeiriad cynharaf bosibl, ac mae un o’r rhai hynaf a welais i yn dod o 1671 yn y ffurf Bach r Iffri. Mae’r esboniad yn yr ynganiad, er bod y sillafiad braidd yn od. Y ffurf wreiddiol oedd Bach Riffri, sef llecyn yn perthyn i ŵr o’r enw Griffri. Mae hwn yn hen enw a welir mewn rhai enwau lleoedd eraill. Mae tŷ o’r enw Treriffri yn Llechcynfarwy ym Môn, Llwyn Griffri yn Nhal-y-bont, Meirionnydd, a chofnodwyd Gweirglodd Griffri yn Llanfairfechan. Dwn i ddim o ble y daeth yr Hilfry sydd ar y map OS, ond cofnodwyd Bach yr Hilfri yn rhestr y Degwm yn 1839.

Sut y crewyd y fath lanast mewn enw? Cawn enghreifftiau eraill o gymysgu bach a braich. Trodd Bach y Saint ger Cricieth yn Braich y Saint. Hefyd, wrth gwrs, fe all braich fod yn elfen gwbl ddilys mewn enw lle yn yr ystyr o esgair o fynydd neu bentir: fe’i gwelir yn enw Braichmelyn ym Methesda. Benywaidd yw ‘braich’  fel aelod o’r corff, ond gwrywaidd yn yr ystyr o esgair mynydd. Gan fod Griffri yn enw nas clywir mohono bellach fe’i llurguniwyd i Effri a Hilfry, dau air cwbl ddisynnwyr.

Trown yn awr at Fachell sydd hefyd yn Llanddeiniolen. Ystyr yr enw hwnnw yw Y Fachell, o bachell, ffurf fachigol o bach yn yr ystyr o gilfach neu lecyn bychan. Os yw bach yn gilfach fechan, mae bachell yn llai byth. Mae ar yr un patrwm â traethell am draeth bychan. Y cyfeiriad cynharaf a welais at Fachell yw’r ffurfiau Vachell a Tythyn’r hen vechell o’r flwyddyn 1665.

1 sylw

Dafydd Whiteside Thomas
Dafydd Whiteside Thomas

Cafodd Eirianwen, fy ngwraig, ei magu ar y fferm, ac ynganiad y teulu o’r enw yw Braich Riffri. Felly roedd un rhan o’r enw yn gywir!

Mae’r sylwadau wedi cau.